Toglo gwelededd dewislen symudol

Hysbysiad Preifatrwydd Llinell Ofal

Ar y dudalen hon

Nid oes unrhyw benawdau ar y dudalen hon i lywio iddynt.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Larwm Careline Canolfan Gyswllt Gwasanaethau'r Cwsmer

Mae'n bwysig iawn fod adran Careline Cyngor Sir Powys yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir er mwyn darparu ein gwasanaethau a chynnal hyder y cwsmeriaid.

Data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' drwy'r hysbysiad preifatrwydd hwn ac mae iddynt yr un ystyr.

Er mwyn sicrhau bod gwasanaeth Careline yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cadw'n llawn at ofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn felly wedi'i gynhyrchu i egluro mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

Dylid darllen y wybodaeth hon ar y cyd â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor a gyhoeddir ar ein prif wefan Diogelu Data a Phreifatrwydd - Cyngor Sir Powys

Pwy ydym ni, beth rydym ni'n ei wneud?

Canolfan Gyswllt Gwasanaethau'r Cwsmer yw prif wasanaeth y Cyngor ar gyfer ymateb i gwsmeriaid. Mae'n cynnwys galwadau ffôn i mewn ac allan gan gynnwys galwadau gwasanaethau Gweinyddu Careline. Mae eich gwybodaeth bersonol berthnasol yn cael ei chofnodi i gynorthwyo gyda phrosesu eich cais. Mae'n bosibl y bydd y Ffurflen Gais hefyd yn cael ei chwblhau trwy ddarparwyr gwasanaeth eraill a'i hanfon ymlaen at y Gwasanaethau Cwsmer i weithredu arni.

Pa wybodaeth bersonol a gwybodaeth bersonol pwy sydd gennym?

Pan fydd cwsmeriaid yn dewis rhyngweithio â'r ganolfan gyswllt efallai y bydd eu data personol yn cael eu rhannu â'r maes gwasanaeth perthnasol/a sefydliadau ehangach, os oes angen, er mwyn iddynt brosesu cais y cwsmer.

Bydd y math o wybodaeth sy'n cael ei chasglu a'i chofnodi yn amrywio yn ôl anghenion y galwr ond fel arfer mae'n cynnwys:

  • Manylion cyswllt fel enw, cyfeiriad, rhif ffôn, eiddo, a chyfeiriadau e-bost.
  • Manylion adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol.
  • Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys budd-daliadau a dderbyniwyd, ac incwm,
  • Gwybodaeth am yr Ymatebwr/Teulu gan gynnwys perthynas, cyfeiriad, manylion cyswllt.

Gwybodaeth am iechyd a manylion meddygol.

O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydym yn casglu gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrthych chi ond rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth o'r ffynonellau canlynol:

  • Eich teulu a'ch rhwydwaith cymorth a gofal
  • Gwasanaethau Iechyd Gwladol (GIG)
  • Adrannau Cyngor Sir Powys (e.e. Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Awdurdodau lleol eraill
  • Heddluoedd Rhanbarthol, Gwasanaethau Tân (e.e. Heddlu Dyfed Powys)
  • Meddygfeydd
  • Gwasanaethau Cymorth Cartref
  • Cynghorydd Etholedig ar ran eu Hetholwyr.
  • Canolfan Monitro Careline (Delta Wellbeing)
  • Gosodwyr larymau a chyfarpar Careline (Delta Wellbeing a Millbrook Healthcare Group)

At ba ddiben rydym yn defnyddio eich data personol

Bydd y wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio at y diben(ion) canlynol:

  • Cynllunio, paratoi a darparu gwasanaethau i'ch cefnogi i aros yn annibynnol, ac i gynnal dewis a rheolaeth dros eich bywyd.  Mae hyn yn cynnwys prosesu ffurflen gais a dderbyniwyd, cynnig dewis o larymau a phecynnau, trefnu peiriannydd cymwys i osod y larwm.
  • Adolygu gwasanaethau a roddir i chi i sicrhau eu bod o'r safon uchaf posibl.
  • Ymchwil i werthuso a gwella ansawdd, effeithiolrwydd ac effaith ein gwasanaethau.
  • Ymchwilio i gwynion, neu ddigwyddiadau.
  • Eich helpu i gael mynediad at ein gwasanaethau:
  • Dros y ffôn
  • Trwy e-bost
  • Trwy ein gwefan
  • Mae eich gwybodaeth yn cael ei storio o fewn system gyfrifiadurol ddiogel (UMO) lle gellir gwneud unrhyw ddiweddariad i wybodaeth bersonol.

Bydd Careline yn paratoi'r anfonebau a bydd tîm y dyledwyr yn neilltuo rhif cwsmer ac yn rheoli'r arian sy'n ddyledus. Anfonir y ffurflen Debyd Uniongyrchol wreiddiol i swyddfa ein dyledwyr, nid yw Careline yn cadw copi.

Beth yw'r sail gyfreithiol dros ddefnyddio'r wybodaeth hon?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn darparu Gwasanaeth Cyhoeddus.  Yn benodol yn unol â:

·         Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014

·         Deddf Iechyd Meddwl 1983 fel y'i diwygiwyd

·         Deddf Llywodraeth Leol 2000

Y sail ar gyfer prosesu data personol categori arbennig (sensitif) amdanoch chi yw budd sylweddol i'r cyhoedd, ar sail y ddeddfwriaeth y cyfeirir ati uchod.

Os na fyddwch yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnom pan fyddwn yn gofyn amdani, gallai hyn arwain at gynllunio a darparu gwasanaethau'n llai effeithiol i helpu i ddiwallu'ch anghenion.

Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Dim ond pan fo'r gyfraith yn mynnu neu'n caniatáu i ni wneud hynny y mae eich data personol gennym, a dim ond y lleiafswm sy'n angenrheidiol ym mhob achos.  Y sefydliadau y gallwn rannu gwybodaeth â nhw yw:

  • Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)
  • Adrannau Cyngor Sir Powys (e.e. Gwasanaethau Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol)
  • Awdurdodau Lleol Eraill
  • Heddluoedd Rhanbarthol, Gwasanaethau Tân (e.e. Heddlu Dyfed Powys)
  • Meddygfeydd
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Darparwyr Gwasanaeth ar Gontract
  • Darparwyr Ffôn yn unol â'r Newid i Ddigidol 2025

Am ba mor hir y bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw tra bo'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu,

  • Gwybodaeth ariannol; 7 mlynedd o'r dyddiad cyswllt diwethaf.
  • Gwybodaeth bersonol ar y System UMO; dileu ar ddiwedd y gwasanaeth o fewn 3 mis.

Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data yn darparu hawliau pwysig, gan gynnwys eich hawl i

  • Gael mynediad at y data personol y mae gwasanaeth Careline Cyngor Sir Powys yn ei brosesu amdanoch chi.
  • Cael unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn wedi'i chywiro.

Cysylltu â Ni

I gael rhagor o wybodaeth am yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â:

Swyddog Diogelu Data:

Neuadd Sir Powys

Spa Road East
Llandrindod
Powys
LD1 5LG

Information.Compliance@powys.gov.uk


 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu