Cwestiynau Cyffredin i Staff
1. Sut mae'r dull hwn yn wahanol i'r hyn rydym wedi'i wneud o'r blaen?
Nid yw'r tafellu 'salami' blaenorol mewn toriadau cyllideb yn gynaliadwy yn y tymor hir. Rydym yn pwyso'r botwm 'ailosod' ac yn edrych ar bopeth gyda phersbectif newydd fel y gallwn lunio cyngor sy'n gynaliadwy yn y tymor hir.
Mae hwn yn gyfle i ailedrych ar yr hyn yr ydym wedi'i wneud erioed a gofyn a oes angen ei wneud, a yw'n effeithlon ac yn addas i'r diben, a ellid ei wneud yn wahanol (er enghraifft yn ddigidol), ac a allwn ni weithio ar draws y sefydliad a chydag eraill mewn ffyrdd newydd.
Wrth wneud hyn, byddwch yn cael eich galluogi'n llawn, bydd gennych ganiatâd llawn a bydd gennych y cymorth angenrheidiol i ddefnyddio dulliau newydd, chwalu seilos, herio'r norm a gwneud y newid sydd ei angen arnom i ddarparu gwasanaethau lleol o safon i bobl Powys.
Yn dilyn y pandemig, rydym hefyd mewn sefyllfa wahanol o ran ein cymunedau ac fel sefydliad. Rydym yn adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i wneud i drawsnewid a newid.
2. Pam nad yw'r dull gweithredu presennol yn gallu gweithio?
Nid yw'r status quo yn bosibl wrth i'r cyllid leihau. Hyd yn oed gyda chynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor o flwyddyn i flwyddyn, mae'r bwlch cyllido yn parhau i ehangu. Rydym yn arddel ymagwedd fwy hirdymor a chynaliadwy i ddarparu cyflogaeth o ansawdd da a chynaliadwy a sicrwydd meddwl.
3. Beth sy'n digwydd yn fy maes gwasanaeth i?
Yn ogystal â diweddariadau a newyddion byddwn yn eu rhannu am y dull hwn yn gorfforaethol, bydd eich Penaethiaid Gwasanaeth a'ch Uwch Reolwyr yn siarad â chi am ymgorffori dull Powys Gynaliadwy yn eu meysydd a chydweithio â chi, gan edrych ar syniadau, newidiadau ac ati.
4. Onid mater o arbedion ac effeithlonrwydd i reolwyr ei ddatrys yw hwn?
Gall pob aelod o staff chwarae ei ran ac ni fydd Powys Gynaliadwy yn llwyddo oni bai y bydd pawb yn cymryd rhan. Mae timau rheoli yn edrych ar hyn yn strategol ar draws eu hardaloedd, ond gall pob aelod o staff chwarae rhan bwysig wrth nodi newid a meysydd i'w gwella. Mae pob punt yn cyfrif.
Rydych chi'n rhan o'n cenhadaeth i sicrhau newid cadarnhaol i bobl Powys. Rydym wedi profi y gallwn newid yn y gorffennol, mae a wnelo hyn â chyflymu'r broses. Rydyn ni eisiau gwneud hyn gyda'n gilydd - mae'n ymwneud â phawb yn cymryd rhan ac ymgorffori'r newid.
5. Sut fydd Powys Gynaliadwy yn effeithio arnaf i a'm swydd?
Rydym yn wynebu her ariannol sylweddol ac mae'n anochel y bydd rhywfaint o effaith ar gyllidebau staffio, swyddi a'r gwaith y gallech ei wneud. Fodd bynnag, rydym yn rhoi sicrwydd i'r holl staff mai colli swyddi fyddai'r dewis olaf un a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i osgoi hyn.
Wrth gydnabod nifer y swyddi rydym yn recriwtio iddynt bob blwyddyn, rydym yn hyderus y bydd gennym gyfleoedd da i bawb sy'n dymuno gweithio i Bowys a helpu i drawsnewid y Cyngor.
Byddwn yn cydweithio â chi i adeiladu gweithlu'r dyfodol sy'n wirioneddol hyblyg ac sy'n gallu cydweithio'n effeithiol ac yn effeithlon i ddarparu gwasanaethau a fydd yn gynaliadwy yn y dyfodol. Pan fydd rolau swydd yn newid, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael yr hyfforddiant a'r cymorth angenrheidiol i allu cyflawni'r rôl honno'n llwyddiannus a'ch bod yn gallu gweithio'n hyblyg os yw hyn yn cefnogi'r ddarpariaeth.
6.Sut y bydd staff yn cael eu cefnogi drwy unrhyw newid?
Rydym yn cydnabod, pan fydd cyfnodau o newid, y gall hyn fod yn ansefydlog. Mae pob un ohonom yn ymateb i newid mewn ffyrdd gwahanol - bydd rhai pobl yn llawn cyffro, eraill yn bryderus, neu o bosibl yn ofidus. Nid oes ymateb cywir nac anghywir, a dyna pam y byddwn yn cefnogi staff trwy unrhyw broses newid. Mae'n bwysig nodi y byddwn yn gosod gweithwyr wrth wraidd newid fel y gallwch ein helpu i lunio'r modd y bydd gwasanaethau'n cael eu darparu.
Wrth ddatblygu Powys Gynaliadwy, byddwn yn sicrhau bod rheolwyr yn deall sut y gall newid effeithio ar bobl yn wahanol fel y gallant gefnogi aelodau o'r tîm orau. Os oes gennych unrhyw bryderon ar unrhyw adeg, siaradwch â'ch rheolwr llinell neu'ch Partner Busnes AD cyn gynted â phosibl.
Bydd ein rheolwyr yn eich helpu i ddeall ac i ymwreiddio dull Powys Gynaliadwy, ac fel rhan ohono, rydym yn eich annog i helpu i lunio diwyg y dyfodol yn eich rhan chi o'r sefydliad. Dewch â'ch syniadau i'r cyfarfodydd a/neu'r trafodaethau a byddwch yn rhan o'r newid. Yn y pen draw, bydd a wnelo'r dyfodol â symud ymlaen gyda'n gilydd i sefyllfa gynaliadwy gadarnhaol iach, sy'n sicrhau canlyniadau gwych i bobl Powys cyn gynted â phosibl.
7. Pa adran/cyfarwyddwr sy'n gyfrifol am Powys Gynaliadwy?
Bydd Powys Gynaliadwy'n cael ei harwain gan y Tîm Arwain Corfforaethol. Mae'r Tîm yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr, y Swyddog Adran 151 (Pennaeth Cyllid), a Phennaeth y Swyddog Cyfreithiol a Monitro. Y Cabinet yw'r perchennog.
8. Sut mae gwaith Powys Gynaliadwy'n effeithio ar flaenoriaethau newid hinsawdd a'r argyfwng natur?
Cydnabyddwn fod gan y Cyngor strategaethau a chynlluniau neilltuol sy'n cyfarwyddo gwaith a fydd yn dylanwadu ar Bowys Gynaliadwy, a bydd angen ystyried y rhain fel rhan o'r dull hwn o weithio. Mae'r Strategaeth Newid Hinsawdd a'r Cynllun Adfer Natur yn rhan o hyn.
Wrth gynllunio ar gyfer Powys Gynaliadwy, bydd angen inni sicrhau er enghraifft, ein bod yn ystyried, fel rhan o'n cynlluniau, sut y gallwn leihau allyriadau carbon i sero net erbyn 2030 a diogelu'r amgylchedd naturiol.