Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymddiriedolaeth Seren

Bydd gan bob ysgol ei dull gweithredu sefydledig ei hun i gefnogi dysgwyr mwy abl, a bydd hyn yn nodwedd o allu dynodi pobl ifanc ym Mlynyddoedd 8-11 sy'n cydweddu â phroffil dysgwr Academi Seren neu sydd â'r potensial i wneud hynny.

Academi Seren  

Meini prawf cymhwyso diwygiedig

Caiff myfyrwyr Academi Seren eu dynodi yn dilyn eu canlyniadau TGAU yn yr haf. Ysgolion a cholegau sydd yn eu dynodi, yn seiliedig ar faen prawf cymhwyso 3-phwynt a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017.

1. Mae'r dysgwr wedi llwyddo i gael o leiaf  6 A* - (TGAU cyflawn); a 2 faen prawf pellach.

O ran carfan 2020-21, bydd y broses yn parhau, ond bydd rhagor o hyblygrwydd gyda'r meini prawf cymhwyso, gan y bydd y myfyrwyr eu hunain wedi derbyn eu canlyniadau TGAU yn seiliedig ar raddau disgwyliedig.  

Mae'r penderfyniad i ganslo arholiadau TGAU yn ei wneud yn angenrheidiol fod hybiau yn rhoi ystyriaeth i feini prawf cymhwyso 2 a 3.

2. Mae dawn eithriadol gan y dysgwr mewn maes astudiaeth penodol e.e. Mathemateg AC

3. Mae'r dysgwr wedi llwyddo i gael o leiaf 5A*/A - (TGAU cyflawn) ac mae potensial pellach ganddo

Bydd angen i ysgolion fod yn fodlon bod gan ddysgwyr y potensial i wneud cais cryf i un o'r prif brifysgolion a bod ganddo'r gallu yn unol â charfanau dysgwyr Seren blaenorol.

Bydd cydlynwyr hybiau, os yw'n angenrheidiol, yn trafod achosion unigol gydag arweinwyr Seren / Penaethiaid 6ed Dosbarth.

Am wybodaeth bellach am hyb Powys (Blynyddoedd 8-13), cysylltwch â chydlynydd yr hyb, Fiona Thomas:fiona.thomas@powys.gov.uk