Cefndir i'r Porth Cadwyn Gyflenwi

Tecach, Cryfach, Gwyrddach
Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi gosod mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd ei Gynllun Corfforaethol Tecach Cryfach Gwyrddach newydd gan ddatgan argyfwng Hinsawdd yn 2020, ac argyfwng natur a bioamrywiaeth yn 2022.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sbarduno'r lleihad yn ei allyriadau nwyon tŷ gwydr ei hun yn ei wasanaethau, gan leihau ei gyfraniad i newid pellach yn yr hinsawdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol tuag at ddod yn Sero-Net fel Cyngor erbyn 2030 a helpu unigolion a chymunedau i gyflawni'r trawsnewid hwnnw erbyn 2050.
Rydym am i'r camau gweithredu a gymerwn fel Cyngor ac mewn partneriaeth ag eraill gael effaith barhaol ar unwaith wrth helpu unigolion i ddewis ar sail gwybodaeth i gynorthwyo eu llesiant a'u hunanddibyniaeth unigol, a chydnerthedd yn wyneb yr heriau sydd o'u blaenau. Mae'r Cyngor yn cydnabod bod dyfodol mwy cynaliadwy i gymunedau Powys yn gofyn nid yn unig am weledigaeth glir ond hefyd y penderfyniad a'r modd o gyflawni hyn mewn ffordd sy'n deg i bawb.
Gwyrddach
Rydym am sicrhau dyfodol mwy gwyrdd i Bowys, lle mae ein lles yn gysylltiedig â lles y byd naturiol, ac mae ein hymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur wrth wraidd popeth a wnawn.
Cynllun newid hinsawdd y Cyngor
Datblygodd y Cyngor strategaeth newid hinsawdd gyda'r weledigaeth ganlynol "Yn 2030 mae Cyngor Sir Powys yn garbon niwtral ac yn gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd".
Ochr yn ochr â'r strategaeth hon, mae'r cyngor wedi datblygu rhaglen trawsnewid hinsawdd a natur ac mae wrthi'n cwblhau cynlluniau gweithredu uchelgeisiol sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol o ddatgarboneiddio ar draws cwmpas 1, 2 a 3.
Mae'r meysydd blaenoriaeth hyn yn cynnwys symudedd a thrafnidiaeth, adeiladau, tir ac afonydd, llywodraethu, caffael cynaliadwy, ac ynni. Mae'r cyngor, fel y rhan fwyaf o sefydliadau sector cyhoeddus mawr, yn caffael ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau fforddiadwy o'r ansawdd gorau i'n trigolion a'n cymunedau. Fodd bynnag, mae hyn yn golygu bod yr allyriadau o'n gadwyn gyflenwi yng nghwmpas 3 yn cyfrif am gyfran sylweddol fawr o'n hôl troed carbon.
Cadwyn Gyflenwi
Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chyflenwyr i wreiddio cynaliadwyedd ym mhopeth a wnawn. Mae'r cyngor yn awyddus i weithio gyda chyflenwyr sydd wedi ymrwymo i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau a darparu gwasanaethau gwyrddach i'r cyngor, gan ein cefnogi i leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr a chyfrannu'n gadarnhaol tuag at ein huchelgeisiau o ran yr hinsawdd a natur a chyngor a sir sy'n wyrddach.