Cyflwyniad i'r Porth Cadwyn Gyflenwi

Beth yw'r porth
Mae'r porth arlein wedi'i gynllunio i gefnogi cyflenwyr ym Mhowys gyda'u cynlluniau cynaliadwyedd a lleihau carbon. Ein nod yw creu cadwyn gyflenwi gyda gwybodaeth a sgil credadwy ynghylch datgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd. Bydd hyn yn cynyddu cystadleuaeth a'r gyfradd ymateb i dendrau ac felly'n gwella ansawdd y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu. Bydd y cynllun awgrymiadau a gynhyrchir gan yr holiadur yn gwella'r rhyngweithio rhwng y cyflenwr a'r maes gwasanaeth oherwydd bydd mwy o ddealltwriaeth a gwell darpariaeth o'r agenda cynaliadwyedd.
Sut y bydd o fudd i gyflenwyr
Nod y prosiect yw creu porth arlein i ganiatáu i gyflenwyr lenwi holiadur sy'n gysylltiedig â chynaliadwyedd a natur a fydd yn creu cynllun awgrymiadau personol.
Byddwn yn defnyddio dull cyfeillgar sy'n canolbwyntio ar atebion a chydweithio â chyflenwyr, yn hytrach na gosod gofynion ar gyflenwyr. Mae'r porth yn ceisio galluogi cyflenwyr lleol i bontio eu bwlch gwybodaeth i uwchsgilio eu hunain er mwyn gallu bodloni argyfwng Hinsawdd a Natur y cyngor ochr yn ochr â chefnogi cyflenwyr gyda chynllunio i leihau carbon.
Beth fydd angen iddynt ei wneud
Fel sefydliad, bydd angen i chi lenwi holiadur y gadwyn gyflenwi a fydd yn creu cynllun awgrymiadau cam wrth gam wedi'i dargedu ynghylch sut i uwchsgilio a datgarboneiddio eich sefydliad. Mae fuddiol i'r sefydliad fod yn gwbl onest wrth gwblhau'r holiadur er mwyn derbyn y cynllun awgrymiadau gorau posibl.
Bydd yn cymryd tua 30 munud i gwblhau'r holiadur.
Gellir cadw newidiadau i'r holiadur ar unrhyw adeg, fel bod modd casglu gwybodaeth i ateb yr holiadur mor gywir â phosibl.
Gwaith i Gyngor Sir Powys yn y dyfodol
Nid yw cwblhau'r porth hwn yn gwarantu gwaith pellach gyda'r Cyngor; ei unig fwriad yw helpu i uwchsgilio a datgarboneiddio eich sefydliad, rhywbeth y mae'r Cyngor yn ei ystyried yn fantais gystadleuol. Cynlluniwyd y porth hwn i alluogi sefydliadau i wella eu sgiliau a datgarboneiddio eu gweithrediadau yn annibynnol, gan unioni eu hunain â nod y cyngor o sicrhau Powys Gryfach, Decach, a Gwyrddach.