Grant Cychwyn Busnes Powys
Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i ddatblygu economaidd a chefnogi busnesau mae Cyngor Sir Powys yn darparu Grant Dechrau Busnes Powys sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Nod yr ymyriad grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys trwy rwydweithiau lleol.
Nod y Gronfa Dechrau Busnes yw rhoi cefnogaeth i greu busnesau newydd yn y sir, gan arwain yn uniongyrchol at greu swyddi, sydd o ganlyniad, yn gwella'r economi leol.
Cynllun grant busnes fydd y Gronfa, fydd yn cynnwys cymorth tuag at brosiectau gwariant cyfalaf a gwariant refeniw arbenigol (heb gynnwys costau rhedeg parhaus), lle mae swyddi newydd yn cael eu creu a/neu eu diogelu oherwydd y cymorth ariannol.
Y Cynnig
- Grantiau ar gael rhwng £1,000 a £10,000.
- Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o'r costau cymwys NEU uchafswm o £5000 fesul swydd a grëir, p'un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd i gael mynediad at y gronfa) Gellir cynnwys perchennog y busnes fel swydd newydd.
- Yr isafswm grant yw £1000 (yn seiliedig ar o leiaf un swydd newydd a grëwyd) a'r uchafswm grant i bob busnes yw £10,000 (yn seiliedig ar greu o leiaf 2 swydd).