Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cofrestru ceisiadau ac adnau am hawliau tramwy a meysydd pentref

Rhaid i'r Cyngor gadw cofrestr am fathau penodol o gais ac adneuo cyfreithiol sy'n effeithio ar hawliau tramwy cyhoeddus a chofrestriad meysydd pentref.

Caiff y rhain eu diweddaru o bryd i'w gilydd, achos caiff achosion eu cymryd ymlaen neu caiff adnau neu gais newydd ei wneud. Rhaid i'r Cofrestrau fod ar gael i'r cyhoedd eu gweld. Am ragor o wybodaeth am sut i wneud ceisiadau neu adneuo, cysylltwch â ni.

Rhestr o geisiadau i addasu'r Datganiad a'r Map Diffiniol:  S53B Adran 14 (ZIP) [25KB]

Caiff y ceisiadau hyn eu gwneud os oes yna dystiolaeth fod llwybr wedi ei gofnodi'n anghywir, neu fod posibilrwydd fod defnydd o lwybr gan y cyhoedd wedi arwain at hawl tramwy newydd yn dyfod i fodolaeth. Nid yw hyn yr un peth â dargyfeirio llwybr, pan y gellir gwneud dewis i newid trywydd y llwybr neu greu un newydd.

Cofrestr o adneuo tirfeddianwyr sy'n effeithio ar hwaliau tramwy cyhoeddus a meysydd pentref: Adran 31(6) (ZIP) [45KB] 

Gall tirfeddianwyr wneud datganiad cyfreithiol, a roddir i'r Cyngor, i'w diogelu eu hunain rhag llwybrau cyhoeddus newydd neu feysydd pentref newydd yn dyfod i fodolaeth, pan fo yna ddefnydd wedi bod gan aelodau o'r cyhoedd. Mae'r datganiadau hyn yn effeithiol dros gyfnod penodol o amser, ac yna mae'n rhaid eu hadnewyddu.

Gellir dod o hyd i hysbysiadau am geisiadau fan hyn: Hawliau Tramwy Cyhoeddus - Rhybuddion cyfreithiol gyfer hawliau tramwy cyhoeddus a Cofrestru Tir Comin - Rhybuddion cyfreithiol ar gyfer tir comin a meysydd pentref.