Pennaeth Gwasanaethau Tai

Gweld ein pecyn recriwtio rhyngweithiol ar gyfer y rôl hon. Mae'n cynnwys rhagor o wybodaeth am y swydd wag, ein cyngor a'r sir:
Fersiwn hygyrch o'r pecyn (PDF, 317 KB)
Gweld y swydd-ddisgrifiad a manyleb yr unigolyn ar gyfer y rôl hon (PDF, 225 KB)
Ceisiadau
I wneud cais, cyflwynwch CV cyfoes (heb fod yn fwy na dwy dudalen A4) gyda datganiad personol cefnogol (uchafswm o bedair tudalen) sy'n amlinellu sut mae eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn bodloni gofynion y rôl. Sicrhewch eich bod yn nodi'n glir pa rôl yr ydych yn ymgeisio amdani.
Defnyddiwch y ffurflen ar-lein isod i gyflwyno'ch cais erbyn 26/09/2025. Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r broses uwchlwytho, cysylltwch â recruitment@powys.gov.uk
Gwnewch gais i ymuno â'n Tîm Arwain Corfforaethol Gwnewch gais i ymuno â'n Tîm Arwain Corfforaethol
Gellir cyflwyno ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na'r rhai yn y Saesneg.
Amserlen
Dyddiad cau: 26/09/2025 12.00pm
Creu rhestr fer: wythnos yn dechrau 07/10/2025
Cyfweliadau: 28/10/2025
Mae'r Cyfarwyddwr ar gael i drafod unrhyw gwestiynau sydd gennych am y rôl, e-bostiwch recruitment@powys.gov.uki drefnu hyn.
Mae Cyngor Sir Powys yn ymrwymo i ddiogelwch y data personol y byddwch yn ei ddarparu mewn cysylltiad â'ch diddordeb yn y rolau hyn a'ch ceisiadau. I ddeall sut y byddwn yn trin eich data personol, gwelwch ein hysbysiad preifatrwydd.