Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfamod Y Lluoedd Arfog

Mae Cyfamod y Lluoedd Arfog yn nodi'r berthynas rhwng y genedl, y wladwriaeth a'r Lluoedd Arfog. Mae'n cydnabod bod gan y genedl gyfan rwymedigaeth foesol tuag at aelodau'r Lluoedd Arfog a'u teuluoedd ac mae'n pennu sut y dylent ddisgwyl cael eu trin.

Mae'n bodoli i unioni'r anfanteision y mae Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hwynebu o'i gymharu â dinasyddion eraill ac i gydnabod yr aberth y maent wedi'i wneud. Ar lefel leol, mae 'Cyfamodau Cymunedol' yn cael eu llofnodi ledled y wlad gan ddod â chymunedau milwrol a sifil ynghyd.

Mae Cyfamodau Cymunedol yn ategu, ar lefel leol, Cyfamod y Lluoedd Arfog, sy'n amlinellu'r rhwymedigaeth foesol rhwng y genedl, y llywodraeth a'r Lluoedd Arfog. Nod y Cyfamod Cymunedol yw annog cymunedau lleol i gefnogi'r gymuned wasanaeth yma ym Mhowys a hyrwyddo dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy'n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae nodau Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog fel a ganlyn:

  • Annog cymunedau lleol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn eu hardaloedd i feithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o faterion sy'n effeithio ar Gymuned y Lluoedd Arfog.
  • Adnabod a chofio'r aberth sy'n wynebu Cymuned y Lluoedd Arfog
  • Annog gweithgareddau sy'n helpu integreiddio Cymuned y Lluoedd Arfog i fywyd lleol
  • Annog Cymuned y Lluoedd Arfog i helpu a chefnogi'r gymuned ehangach, p'un ai drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau a phrosiectau ar y cyd, neu ddulliau ymgysylltu eraill.

Cymorth

Canllaw ar ofalu am gyn-filwyr y Lluoedd Arfog

 

Cymorth i aelodau o'r Lluoedd Arfog sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd a'u teuluoedd [HTML] | LLYW.CYMRU

Ap Cyn-filwyr y Samariaid | Sut gallwn ni helpu |Y Samariaid

Canolfannau Taro Heibio'r Gymdeithas Gwasanaeth - Canolfannau Taro heibio ar gyfer Aelodau'r Gwasanaethau (asdic.org.uk)

Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog

 

Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys

Mae Andy Jones, ein Swyddog Cyswllt Lluoedd Arfog Powys yn hapus i gynnig cymorth i'n cymuned Lluoedd Arfog, gan gynnwys Milwyr, Milwyr wrth Gefn, cynfilwyr a'u teuluoedd.

Andy Jones (Curly)