Toglo gwelededd dewislen symudol

Adran - Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan

Lansiwyd Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021.

Ym mis Tachwedd 2021 cynhaliodd Powys gynhadledd i gyflwyno'r Safonau'n lleol i nodi pobl o sefydliadau Statudol a Thrydydd sector a oedd â diddordeb mewn bod yn rhan o'r broses o alinio â'r Safonau ym Mhowys.

Yn dilyn y lansiad, datblygwyd pum grŵp tasg:

1.       Ymgysylltu Cymunedol

Mae'r safon hon yn ymwneud ag ymgysylltu â'r gymuned gan ddefnyddio un ardal o fewn rhanbarth yn gweithio mewn partneriaeth, gan gymryd 6-12 mis i ymgysylltu â'r gymuned honno er mwyn dysgu, dangos a dadansoddi'r hyn y mae pobl ac asiantaethau wedi nodi bod arni ei angen e.e. nodi 'sut beth yw gofal ac ymyrraeth dementia yn yr ardal hon.' Bydd hyn yn cynhyrchu gweledigaeth a chynllun twf (cyflawni). Y gymuned ddewisol ym Mhowys yw Rhaeadr Gwy ac mae digwyddiadau wedi'u cynnal yn y gymuned i nodi sut olwg sydd ar ofal dementia.

2.       Asesiad Cof/Anableddau Dysgu/ Nam Gwybyddol Ysgafn a Chysylltydd Dementia

Mae'r safon hon yn cynnwys gwelliant mewn cyfraddau diagnostig, gwasanaethau sydd ar gael i bobl yr effeithir arnynt gan ddementia gan gynnwys addysg, darpariaeth gwasanaeth anableddau dysgu, y rhai sydd wedi cael diagnosis o Nam Gwybyddol Ysgafn a rôl arfaethedig y Cysylltydd Dementia.

3.       Siarter Ysbyty Cyfeillgar i Ddementia

Bydd Cymru'n mabwysiadu'r Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia gydag adolygiad rheolaidd o'r gweithredu a'r canlyniadau.

4.       Dysgu a Datblygiad Sefydliadol

Bydd pob aelod o staff sy'n darparu gofal ar bob lefel o fewn pob disgyblaeth a lleoliad yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn dysgu a datblygu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda chymorth i'w roi ar waith mewn ymarfer dyddiol.

5. Mesur

Gan weithio mewn partneriaeth, bydd y rhanbarth yn bodloni gofynion yr eitemau data cytunedig ar gyfer adrodd a sicrwydd. 2022/23 oedd y flwyddyn parodrwydd i alluogi ardaloedd i baratoi i weithredu'r Safonau yn ystod 2023/24. Mae'r grwpiau wedi nodi pa brosiectau y mae angen iddynt eu mabwysiadu i alinio â'r Safonau ac mae nifer o brosiectau gwella wedi'u nodi.

 

Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heather Wenban Nyrs Arweiniol Dementia PTHB heather.wenban@wales.nhs.uk

 

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu