Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Powys a Chymunedau Cyfeillgar i Ddementia

Ym Mhowys heddiw, mae gennym ni 8 o gymunedau tref sy'n cyd-dynnu i fynd i'r afael â'r stigma sy'n ymwneud â'r clefyd drwy godi ymwybyddiaeth drwy sesiynau Cyfeillion Dementia dan arweiniad Llysgenhadon Cyfeillion Dementia gwirfoddol.

Mae hyn yn golygu rhoi gwell dealltwriaeth i bobl o ddementia a dangos iddynt bwysigrwydd gwneud pethau syml ac ymarferol iawn i'w gynnwys mewn bywyd bob dydd. Yn ei dro, mae hyn wedyn yn rhoi cymaint o annibyniaeth ac urddas â phosibl i'r rhai sy'n byw gyda dementia tra'n eu cefnogi nhw a'u gofalwyr i fyw'n dda a chyfrannu at y gymuned.

Y cymunedau hynny yw:

  • Aberhonddu
  • Y Drenewydd
  • Tref-y-clawdd a Teme Valley
  • Ystradgynlais
  • Y Trallwng
  • Trefadlwyn
  • Llandrindod
  • Cegidfa

Gan weithio gyda'r Gymdeithas Alzheimer, mae cymunedau'n cymryd camau mawr i ddod yn Gyfeillgar i Ddementia. Mae Cymuned Gyfeillgar i Ddementia yn cynnwys y gymuned gyfan:

  • cynorthwywyr siop,
  • gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus,
  • grwpiau ffydd,
  • busnesau,
  • heddlu,
  • staff tân ac ambiwlans,
  • gyrwyr bysiau,
  • disgyblion ysgol,
  • clybiau a chymdeithasau,
  • arweinwyr cymunedol - pobl sydd wedi ymrwymo i gydweithio i helpu'r rhai sy'n byw gyda dementia i aros yn rhan o'u cymuned.