Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

System archebu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi a ffioedd ar gyfer cael gwared ar wastraff DIY

Ar 22 Chwefror 2024, cymeradwywyd strategaeth ariannol tymor canolig y cyngor ar gyfer 2024-2029 gan y cyngor llawn.

Yn rhan o'r strategaeth honno, mae cynnig i gyflwyno system archebu ar gyfer y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi (CAGC) a newidiadau mewn perthynas â chael gwared ar wastraff DIY.

Bydd y cynnig hwn yn sicrhau y gall y cyngor barhau i ddarparu gwasanaeth CAGC cynaliadwy i holl drigolion Powys, yn unol â'r gyllideb, ond ar yr un pryd, cynnal safon uchel o ailgylchu ar draws y sir.

Daw'r newidiadau hyn i rym adeg adnewyddu contractau'r CAGC, ar ddechrau 2025.

System archebu

Mae systemau archebu wedi cael eu cyflwyno'n llwyddiannus mewn CAGC nifer o awdurdodau eraill. Byddai gofyn i drigolion archebu ymweliad ar-lein neu dros y ffôn. Y canlyniad yw lleihau defnydd anghyfreithlon o'r safleoedd gan gwmnïau masnachol, a chan ddefnyddwyr o du allan i'r sir.

Trwy drefnu amser ymlaen llaw ar gyfer ymweliad, mae'n gwella profiad y defnyddiwr, trwy osgoi gorfod ciwio i ddefnyddio'r cyfleusterau hyn, a bydd hefyd yn rhoi rhagor o amser i staff y canolfanau helpu trigolion lle mae angen cymorth a/neu gyngor arnynt er mwyn ailgylchu yn y ffordd gywir.

Ffioedd ar gyfer gwastraff DIY

Ni ystyrir fod gwastraff DIY neu adeiladu'n wastraff cartref, ac felly nid oes rhwymedigaeth ar gynghorau i'w dderbyn mewn CAGC. Mae llawer o awdurdodau eraill wedi cyflwyno ffioedd ar gyfer y gwastraff yma, ac wedi gweld arbedion sylweddol ar gyfer yr awdurdod, o safbwynt yr incwm sy'n cael ei greu, yn ogystal â thrwy'r gost am gael gwared arno, a chaiff yr arbedion hyn eu dargyfeirio i gyflenwi gwasanaethu'r cyngor.

Hwyrach y bydd cyflwyno ffi ar gyfer cael gwared ar y math yma o ddeunydd yn anghyfleus i rai, ond nid oedd yn fwriad erioed i CAGC fod ar gael i drigolion gael gwared ar wastraff sylweddol o brosiectau DIY neu adeiladu mawr, lle byddai sgip yn fwy priodol. Hefyd bydd yn sicrhau nad yw masnachwyr yn ceisio osgoi eu cyfrifoldebau trwy adael eu gwastraff gyda deiliaid tai ar ôl cwblhau eu gwaith.

Pryd fydd hyn yn digwydd?

Daw'r newidiadau hyn i rym adeg adnewyddu contractau'r CAGC, ar ddechrau 2025. Bydd manylion y system archebu a'r ffioedd ar gael ar y wefan, a byddwn yn eu hyrwyddo i drigolion cyn eu gweithredu.