Prosiectau Cronfa Ffyniant Cyffredin Prosiectau a Gymeradwywyd
Galwad Agored Mewnol - Rownd Un
Fel llawer o awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru, cafodd penderfyniad ei wneud i agor galwad fewnol ar gyfer prosiectau a oedd yn barod i'w cyflawni a gwario'r gyllideb cyn yr 31/03/23. Pwysleisiodd Llywodraeth y DU os nad oedd ein dyraniad Blwyddyn 1 (£3.4m) yn cael ei wario, roedd yna berygl gwirioneddol y byddem yn ei golli.
Cafodd yr alwad fewnol ei thargedu at y themâu a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1) Cymunedau a Lle
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
2) Cefnogi Busnesau Lleol
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
3) Pobl a Sgiliau
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
4) Lluosi
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiect Mewnol Cyngor Sir Powys (PDF) [197KB]
Galwad Agored Gyntaf
Agorodd y cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun yr 20 Fawrth 2023 a chaeodd am 23.59yh dydd Sul yr 16 Ebrill 2023.
Cafodd yr alwad gyntaf ei thargedu at y themâu a meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1) Cymunedau a Lle
Ymyrraeth W14 —Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol
2) Cymunedau a Lle
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Roedd yr alwad hon yn canolbwyntio ar brosiectau adeiladu capasati i helpu i baratoi sefydliadau i ddatblygu ceisiadau yn y dyfodol i'r gronfa. Mae'r alwad hon hefyd yn cynnig cyfle i brosiectau meingefn gefnogi sefydliadau llai i gael mynediad at gronfeydd llai o gyllid a/neu gyngor a chefnogaeth.
3) Cefnogi Busnesau Lleol
Ymyrraeth W31- Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Galwad Agored Gyntaf (1) (PDF) [78KB]
Yr Ail Alwad Agored
Agorodd yr ail gyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun 15 Fai 2023 a chaeodd am 23:59yh dydd Sul yr 11 Fehefin 2023.
Cafodd yr ail alwad ei thargedu at y themâu a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1) Cefnogi Busnes Lleol
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
2) Lluosi
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Ail Alwad Agored (2) (PDF) [134KB]
Y Drydedd Alwad am Geisiadau
Agorodd y trydydd cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun y 10fed o Orffennaf 2023 a chaeodd am 23:59yh dydd Sul y 1af o Hydref 2023.
Cafodd y trydydd galwad ei thargedu at faes blaenoriaethu buddsoddiad:
1) Pobl a Sgiliau
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Trydedd Alwad Agored (3) (PDF) [75KB]
Pedwaredd Alwad am Geisiadau
Agorodd y pedwerydd cyfle i gyflwyno ceisiadau ar gyfer ariannu ar ddydd Llun yr 2 Hydref 2023 a chaeodd am 23:59yh ddydd Sul y 29 Hydref 2023.
Cafodd y bedwaredd alwad ei thargedu at y maes blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1) Lluosi
Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.
Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Pedwaredd Alwad Agored (4) (PDF) [67KB]