Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Prosiectau Cronfa Ffyniant Cyffredin Prosiectau a Gymeradwywyd

Galwad Agored Mewnol - Rownd Un

Fel llawer o awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru, cafodd penderfyniad ei wneud i agor galwad fewnol ar gyfer prosiectau a oedd yn barod i'w cyflawni a gwario'r gyllideb cyn yr 31/03/23. Pwysleisiodd Llywodraeth y DU os nad oedd ein dyraniad Blwyddyn 1 (£3.4m) yn cael ei wario, roedd yna berygl gwirioneddol y byddem yn ei golli.

Cafodd yr alwad fewnol ei thargedu at y themâu a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:

1)     Cymunedau a Lle

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

2)     Cefnogi Busnesau Lleol

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.  

3)     Pobl a Sgiliau

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

4)     Lluosi

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiect Mewnol Cyngor Sir Powys (PDF, 197 KB)

Galwad Agored Gyntaf

Agorodd y cyfle cyntaf i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun yr 20 Fawrth 2023 a chaeodd am 23.59yh dydd Sul yr 16 Ebrill 2023.

Cafodd yr alwad gyntaf ei thargedu at y themâu a meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:

1)       Cymunedau a Lle

Ymyrraeth W14 —Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol

2)     Cymunedau a Lle

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Roedd yr alwad hon yn canolbwyntio ar brosiectau adeiladu capasati i helpu i baratoi sefydliadau i ddatblygu ceisiadau yn y dyfodol i'r gronfa.  Mae'r alwad hon hefyd yn cynnig cyfle i brosiectau meingefn gefnogi sefydliadau llai i gael mynediad at gronfeydd llai o gyllid a/neu gyngor a chefnogaeth.

3)     Cefnogi Busnesau Lleol

Ymyrraeth W31- Astudiaethau Dichonoldeb Perthnasol

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma:  Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Galwad Agored Gyntaf (1) (PDF, 78 KB)

 

 

Yr Ail Alwad Agored

Agorodd yr ail gyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun 15 Fai 2023 a chaeodd am 23:59yh dydd Sul yr 11 Fehefin 2023.

Cafodd yr ail alwad ei thargedu at y themâu a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:
1)       Cefnogi Busnes Lleol

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

2)     Lluosi

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma: Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Ail Alwad Agored (2) (PDF, 134 KB)

 

 

Y Drydedd Alwad am Geisiadau

Agorodd y trydydd cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Llun y 10fed o Orffennaf 2023 a chaeodd am 23:59yh dydd Sul y 1af o Hydref 2023.

Cafodd y trydydd galwad ei thargedu at faes blaenoriaethu buddsoddiad:

1)     Pobl a Sgiliau

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma:  Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Trydedd Alwad Agored (3) (PDF, 75 KB)

 

Pedwaredd Alwad am Geisiadau

Agorodd y pedwerydd cyfle i gyflwyno ceisiadau ar gyfer ariannu ar ddydd Llun yr 2 Hydref 2023 a chaeodd am 23:59yh ddydd Sul y 29  Hydref 2023.

Cafodd y bedwaredd alwad ei thargedu at y maes blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:

1)       Lluosi

Yr holl flaenoriaethau buddsoddio fewn Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol Canolbarth Cymru.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma:  Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Pedwaredd Alwad Agored (4) (PDF, 67 KB)

Pumed Galwad ar gyfer Ceisiadau

Agorodd y pumed cyfle i gyflwyno ceisiadau am gyllid ar ddydd Mawrth y 6 Chwefror 2024 a chaeodd am 23:59yh ddydd Sul y 3 Fawrth 2024.

Roedd y pumed galwad yn cael ei thargedu at y thema a'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi ganlynol:

1)     Pobl a Sgiliau

  • Buddsoddiad W37:Ymyriadau i gynyddu lefelau cynhwysiant digidol, gyda ffocws ar sgiliau digidol hanfodol, cyfathrebu manteision mynd ar-lein (yn ddiogel), a chymorth yn y gymuned i roi'r hyder a'r ymddiriedaeth i ddefnyddwyr aros ar-lein.
  • Buddsoddiad W41: Cymorth ailhyfforddi ac uwchsgilio i'r rheini yn y sectorau carbon uchel, gan ganolbwyntio'n benodol ar drawsnewid i swyddi gwyrdd, a swyddi Diwydiant 4.0 a 5.0.
     
  • Buddsoddiad W43: Cyllid i gefnogi ymgysylltu a datblygu sgiliau meddalach ar gyfer pobl ifanc, mewn perthynas â gwaith Gyrfa Cymru/Cymru'n Gweithio.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau cymeradwy ar gyfer yr alwad hon yma:  Rhestr Prosiectau Cymeradwy_Pumed Galwad Agored (5) (PDF, 57 KB)

 

Prosiectau a Gomisiynwyd

Ym mis Rhagfyr 2023 dynodwyd bylchau gan Bartneriaeth Lleol Powys o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin o ran y cyflenwi o brosiectau a gymeradwywyd yn erbyn ymyraethau penodol (gweithgaredd prosiect) oddi fewn i'r meysydd blaenoriaeth buddsoddi. Er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau hyn, comisiynodd y bartneriaeth nifer o brosiectau.

Gellir dod o hyd i'r rhestr o brosiectau a gymeradwywyd ar gyfer yr alwad hon fan hyn:   Rhestr Prosiectau Cymadwy_Prosiectau a Gomisiynwyd (Commissioned) (PDF, 66 KB)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu