Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio i ni yn y Gymraeg

Hoffech chi ddefnyddio eich Cymraeg yn y gweithle a helpu yn eich cymuned? Os felly, beth am ystyried swydd gyda Chyngor Sir Powys?

Rydym ni'n gyflogwyr mawr ac yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus i'n cymunedau.

Rydym ni'n ymroddedig i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y sir ac mae angen rhagor o staff sy'n siarad Cymraeg arnom ni i gefnogi hyn a bodloni Safonau'r Gymraeg a'n helpu ni i ddarparu gwasanaethau dwyieithog.

Ein rolau

Mae gwerth mawr i'ch sgiliau ieithyddol. Mae llawer o rolau gyda ni ble y gallech chi ddefnyddio'r Gymraeg drwy gydol eich cyflogaeth gyda ni.

Ymhlith yr enghreifftiau, gallwch ymuno â ni fel Cyfieithydd, athro neu aelod o staff cefnogi yn un o'n hysgolion Cyfrwng Cymraeg, neu ddylanwadu ar bolisi a chydymffurfiaeth fel swyddog y Gymraeg.

Neu, gallai eich sgiliau yn yr iaith Cymraeg gael eu defnyddio oddi fewn i lawer o rolau i'n helpu ni i ddarparu gwasanaethau'n ddwyieithog.

Fel gweithiwr cymdeithasol neu ofalwr gyda chleientiaid mewn cymuned Gymraeg ei hiaith, swyddog AD a fyddai'n gallu helpu i roi cyngor a chefnogi cydweithwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, neu weinyddwr neu dderbynnydd sy'n gallu cyfathrebu'n ddwyieithog gyda phreswylwyr.  

Dewch i glywed gan Ffion, Uwch Ymgynghorydd AD, ynghylch sut mae hi'n defnyddio'r Gymraeg yn ein gweithle.

Cefnogaeth

Os yw'n ofynnol, gallwn gynnig hyfforddiant a chymorth i wella eich sgiliau ieithyddol ar draws bob lefel.

Am ragor o wybodaeth

Helpwch ni i chwyddo'n gweithlu Cymraeg ei iaith. Gwiriwch ein swyddi gwag fan hyn https://cy.powys.gov.uk/swyddi