Pa mor hir fydd e'n para?

- Bydd trafodaeth strategaeth yn dechrau'r broses ymholiad adran 47 ac fe ddylai gael ei chynnal o fewn un diwrnod gwaith ar ôl penderfyniad i gynnal trafodaeth strategaeth. Ar gyfer gwasanaeth y tu allan i oriau, ein nod yw cynnal y trafodaethau strategaeth hyn cyn gynted ag sy'n bosibl.
- Byddwn ni'n anelu at arwain ymholiad adran 47 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl y drafodaeth strategaeth.
- Os fydd canlyniad yr ymholiadau adran 47 neu unrhyw gyfarfod strategaeth ddilynol yn penderfynu y dylai cynhadledd diogelu plant cychwynnol gael ei chynnal, byddwn ni'n anelu at gynnal y gynhadledd hon o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl y penderfyniad i ymgymryd â'r Ymholiad Amddiffyn Plant.
- Ar unrhyw adeg o'r broses, gallai gwybodaeth ddigonol gael ei chasglu sy'n dynodi nad yw'r plentyn yn dioddef o risg nac yn dioddef niwed sylweddol. Os mai dyna yw'r achos, byddwn ni'n cofnodi'r canlyniad, ac yn hysbysu'r teulu cyn gynted ag sy'n bosibl.
Gellir disgwyl i ni ddilyn yr amserlen uchod. Er ein bod ni'n ceisio anelu at gadw at yr amserlen hon, gall amgylchiadau godi pan na fydd yr amserlen yn cael ei bodloni.