Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Beth sy'n gallu digwydd ar ôl Ymholiad Amddiffyn Plant?

What happens after

Ar ôl ymgymryd â'r ymholiad ac ar ôl asesu anghenion y plentyn, gall Gwasanaethau Plant benderfynu gwneud achos cyfeirio at y gwasanaeth neu sefydliad mwyaf priodol.

Nid oes raid i'r gefnogaeth hon ddod oddi wrth Wasanaethau Plant yn uniongyrchol.

Os nad yw'n cael ei ystyried fod y plentyn mewn risg o niwed sylweddol, a bod dim anghenion ble y mae cymorth parhaus yn ofynnol, bydd Gwasanaethau Plant yn dod â'u cysylltiad i ben. Byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau dim gweithredu pellach a therfynu.  

Os yw'n cael ei asesu y byddai'n helpu'r teulu i gael cynnig cefnogaeth ychwanegol, mae Gwasanaethau Plant yn debygol o barhau eu cysylltiad drwy gwblhau Asesiad Llesiant. Mae hyn yn galluogi Gwasanaethau Plant i weithio gyda'r teulu i gytuno ar gynllun cefnogi.  

Fodd bynnag, yn dilyn casglu gwybodaeth, os fydd yna dystiolaeth y gellir profi unrhyw rai o'r pryderon a godwyd, ac ystyrir bod plentyn (neu blant) mewn risg o niwed, sylweddol, bydd Gwasanaethau Plant yn argymell bod Cynhadledd Amddiffyn Plant Cychwynnol yn digwydd.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu