Toglo gwelededd dewislen symudol

Synhwyrydd Drws

Sut allwn ni helpu! Defnyddio technoleg i helpu pobl Powys i barhau i fyw yn eu cartrefi.

Dyma John. Mae John yn byw wrtho'i hun yn ei fyngalo yng Ngogledd Powys.

Mae ganddo 3 o blant sy'n byw gerallaw.

Mae John wedi datblygu Dementia'n ddiweddar, a daeth yr Heddlu ar ei draws yng nghanol y nos yn mynd a'i gi am dro.

Roedd gan John ddiben i'r hyn a wnaeth, ond roedd wedi colli ei ffordd ac yn oer iawn.

Roedd plant John yn bryderus iawn y gallai wneud yr un peth eto.

Fe wnaethom osod synwyryddion ar ddrws byngalo John a chysylltu'r rhain trwy larwm Lifeline at ganolfan fonitro 24/7.

Nawr os yw John yn ago rei ddrws yn ystod y nos, bydd y ganolfan fonitro'n gwybod, a gallant ymyrryd ar unwaith.

Mae plant John yn falch iawn bod dad yn ddiogel a'i fod yn gallu parhau i fyw yn ei gartref ei hun, lle mae'n hoffi treulio'i amser gyda'i gi.

I wybod mwy galwch Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cymorth ar 0345 602 7050