Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Tracio GPS

Sut allwn ni helpu! Defnyddio technoleg i helpu pobl Powys i barhau i fyw yn eu cartrefi.

Dyma Mary. Mae'n byw gyda'i gwr mewn tref farchnad fechan ym Mhowys.

Mae Mary'n hoffi mynd am dro bob dydd. Yn ddiweddar, mae hi wedi bod yn colli'i ffordd oherwydd ei dementia. Roedd ei gwr wedi dechrau pryderu.

Fe wnaethom ni roi teclyn tracio GPS i Mary.

Nawr pan fydd Mary'n mynd allan, mae ei gwr yn gwneud yn siwr bod ganddi'i theclyn yn ei phoced.

Os bydd o'n poeni amdani ar unrhyw adeg, gall ddod o hyd iddi ar unwaith.

Gall Mary hefyd ofyn am help drwy bwyso'r botwn SOS.

Mae Mary a'i gwr yn hapus nawr bod bywyd yn gallu mynd yn ei flaen fel arfer.

A gall Mary barhau i dreulio amser yn gwylio'r colomenod yn y parc.

I wybod mwy, galwch Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion Cymorth ar 0345 602 7050

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu