Toglo gwelededd dewislen symudol

Synhwyrydd Cadair

Sut allwn ni helpu! Defnyddio technoleg i helpu pobl Powys i barhau i fyw yn eu cartrefi.

Dyma Caitlin!

Mae Caitlin yn byw gyda'i gwr Tom mewn cartref symudol yng nghanol Powys.

Mae Tom yn dioddef o Glefyd Parkinson.

Bydd yn syrthio os na fydd rhywun yn ei helpu.

Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser n eistedd yn ei gadair.

Bydd yn ceisio codi weithiau heb ofyn am help.

Rydym wedi rhoi synhwyrydd cadair a galwr i Caitlin.

Nawr, os bydd ei gwr yn codi, bydd y galwr yn ei rhybuddio ar unwaith er mwyn gallu mynd i roi help llaw.

Mae Caitlin yn llawer mwy cysurus erbyn hyn ac yn gallu cymryd ei hamser I wneud pethau mae'n eu mwynhau megis ychydig o arddio.

Eisiau gwybod mwy? Galwch Cymorth sef Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 0345 602 7050