Toglo gwelededd dewislen symudol

Memrabel

Sut allwn ni helpu! Defnyddio technoleg i helpu pobl Powys i barhau i fyw yn eu cartrefi.

Dyma Megan. Mae Megan yn byw ar ei phen ei hun mewn ffermdy anghysbell ym Mhowys.

Mae Diabetes ar Megan ac yn ddiweddar aeth yn sal oherwydd ei bod yn anghofio cymryd ei meddyginiaeth.

Fe wnaethon ni roi Memrabel i Megan.

Mae merch Megan yn rhaglenni'r Memrabel i atgoffa ei mam i gymryd ei meddyginiaeth.

Mae merch Megan yn hapus fod hyn yn gweithio i'w mam.

Mae hefyd wedi rhaglennu'r Memrabel i atgoffa mam i fwydo'r afr.

I wybod mwy ffoniwch Cymorth Gwasanaeth Gwybodaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar 0345 602 7050