Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y CyngoraDyfarniadau (budd-daliadau) ar gau ddydd Gwener 14 Mawrth oherwydd diweddariad i'r system.

Swyddogaeth y SAA?

What does the IRO do

Bydd SAA wedi'i ddyrannu i bob plentyn sy'n destun cofrestriad amddiffyn plant neu sy'n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol.

Bydd SAA yn cadeirio adolygiad plentyn sy'n derbyn gofal, adolygiad o gynllun llwybr ac ym Mhowys, yr holl Gynadleddau Amddiffyn Plant (cychwynnol ac adolygiadau)

Mae'r SAA yn cynnig diogelu i atal drifftio i ffwrdd o gynllun gofal plentyn sy'n derbyn gofal a sicrhau bod ymdrechion yr Awdurdod Lleol i adolygu cynllun gofal plentyn yn canolbwyntio ar ddiwallu anghenion pob plentyn unigol.

Mae rôl yr SAA yn rôl statudol ac mae ganddo gyfrifoldebau statudol.

Rôl yr SAA yw sicrhau bod cynllun gofal y plentyn yn adlewyrchu ei anghenion yn llawn. Bydd hyn yn cynnwys ei anghenion iechyd, addysg ac amser teulu.

Bydd SAA yn sicrhau bod Adolygiadau Plant sy'n Derbyn Gofal, Adolygiadau o Gynlluniau Llwybr a Chynadleddau Amddiffyn Plant yn cael eu cynnal yn gywir. Bydd y SAA yn sicrhau bod dymuniadau a theimladau'r plentyn yn cael eu hystyried a bod ei les pennaf yn cael ei amddiffyn. Bydd rôl yr SAA yn sicrhau bod Gweithwyr Proffesiynol ac Oedolion yn gwneud yr hyn y cytunwyd arno yng nghynllun gofal y plentyn (er enghraifft gweithwyr cymdeithasol, gofalwr maeth, aelodau'r teulu ac athrawon).

Beth mae'r SAA yn ei Wneud

  • Monitro Achos y Plentyn
  • Cysylltu â/rhoi cyngor i'r gweithiwr cymdeithasol
  • Adolygu cynllun gofal a chymorth y plentyn yn drylwyr 
  • Cyfeirio at uwch reolwyr trwy broses datrys anghydfod / cyfeirio at Cafcass Cymru os bydd methiant sylweddol yn y cynllun gofal 
  • Datblygu perthynas benodol gyda'r plentyn / person ifanc    

Rôl y SAA yw monitro, hynny yw cadw trosolwg, o achos y plentyn, nid yn unig mewn cyfarfodydd adolygu ffurfiol, ond rhwng cyfarfodydd adolygu hefyd. Fodd bynnag, nid yw'r SAA yn gwneud penderfyniadau terfynol am achos plentyn; mae hynny ar gyfer gweithiwr cymdeithasol a rheolwyr y plentyn. Mae'r 'penderfyniadau' a wneir yn ystod adolygiad, mewn gwirionedd, yn 'argymhellion' i'r awdurdod lleol. Defnyddir y gair 'penderfyniadau' drwy'r canllaw cyfan gan ei fod yn adlewyrchu geiriad y rheoliadau a'r Cod Ymarfer

Bydd yr SAA am ddatblygu perthynas waith da gyda gweithiwr cymdeithasol y plentyn, ac, mewn rhai amgylchiadau, yn gallu cynghori'r gweithiwr cymdeithasol. Fodd bynnag, mae gan y gweithiwr cymdeithasol ei reolwr ei hun, sy'n cymryd cyfrifoldeb dros ei weithredoedd a'i benderfyniadau. Nid yw'r SAA yn cymryd y rôl o reoli'r gweithiwr cymdeithasol.

Yn ystod y broses adolygu (gweler isod) mae gan yr SAA ddyletswydd i edrych ar sut mae'r plentyn wedi derbyn gofal a sut mae'r cynllun gofal yn dod yn ei flaen, ond nid yw'r SAA yn gwneud penderfyniadau cynllunio gofal; penderfyniad y gweithiwr cymdeithasol a'r rheolwr yw'r cynllun gofal yn y pen draw gan mai nhw yw cynrychiolwyr yr awdurdod lleol sydd naill ai â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu'r person ifanc neu sy'n gweithredu gyda chaniatâd y rhieni geni o dan a76 SSWB(W)A.

Gan nad oes gan yr SAA y pŵer i ddiystyru proses gwneud penderfyniadau'r awdurdod lleol, mae'n rhaid bod rhyw ffordd o ddangos ei fod yn pryderu am gynnydd achos plentyn neu berson ifanc neu benderfyniad a wnaed mewn perthynas â chynllun gofal a chymorth. Dylai fod gan yr awdurdod lleol broses datrys anghydfod er mwyn i SAAau allu gwneud uwch reolwyr yn yr awdurdod lleol yn ymwybodol o'u pryderon, gyda'r bwriad o'u datrys. Os na fydd y broses fewnol honno'n gweithio, yna gall yr SAA gyfeirio at Cafcass Cymru.  

Gweithiwr cymdeithasol y plentyn yw'r person sy'n gweithredu cyfrifoldeb rhiant ac sydd angen datblygu perthynas â'r plentyn neu'r person ifanc. Ni ddylai'r SAA, er ei fod yn bwysig fel person cyson ym mywyd y plentyn neu'r person ifanc am nifer o flynyddoedd, gymryd rôl y 'rhiant' y dylai gweithiwr cymdeithasol y plentyn ei chael.

Yr hyn nad yw'r SAA yn ei wneud

  • Rheoli Achos y Plentyn
  • Rheoli'r gweithiwr cymdeithasol
  • Dyfeisio cynllun gofal a chymorth y plentyn
  • Diystyru'r awdurdod lleol
  • Tanseilio rôl gweithiwr cymdeithasol y plentyn / person ifanc

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu