Pa mor aml fydd SAA yn cymryd rhan?

Bydd SAau yn cadeirio pob Adolygiad Plentyn sy'n Derbyn Gofal, Cynllun Llwybr neu Gynhadledd Amddiffyn Plant ar gyfer eich plentyn.
Bydd yr SAA yn cyfarfod â rhieni cyn cynnal cynhadledd amddiffyn plant. Bydd yr SAA yn parhau i fod yn gysylltiedig am gyfnod y cofrestriad amddiffyn plant.
Bydd yr SAA yn cynnig cyfarfod â'r plentyn cyn pob cyfarfod adolygu er mwyn i'r plentyn allu dweud wrth yr SAA beth yw ei ddymuniadau a'i deimladau. Gall y plentyn gysylltu â'i SAA rhwng cyfarfodydd adolygu os hoffai siarad ag e, a gall hyd yn oed weithio gyda'r plentyn i gadeirio cyfarfodydd adolygu ei hun os hoffai wneud hynny.
Bydd SAA yn cwrdd â phlentyn pan fydd yn dechrau mewn gofal, yna dri mis yn ddiweddarach ac yna bob chwe mis. Bydd SAA yn parhau i fod ynghlwm â'r plentyn cyhyd ag y bydd y plentyn yn parhau mewn gofal, hyd at 18 oed. Os bydd plentyn sy'n derbyn gofal yn symud, neu os bydd newidiadau mawr i'r cynllun gofal, bydd yr SAA yn trefnu adolygiad pellach o'r plentyn sy'n derbyn gofal.