Ein Cynnig

Gall unrhyw un gysylltu â'n tîm i drafod eu hanghenion iechyd a lles, a bydd y tîm yn gallu darparu adolygiadau clinigol sylfaenol er mwyn gallu adnabod unrhyw faterion iechyd yn gynnar.
Yn ogystal, os bydd angen, bydd y tîm yn gallu cyfeirio at ffynonellau eraill o gymorth.
Ym mhob lleoliad bydd y tîm yn cynnig llu o bethau gan gynnwys:
- Lle diogel i drafod materion iechyd a lles.
- Trafodaethau am ffordd o fyw gan gynnwys pwysau iach, lefelau gweithgarwch, ysmygu a'r defnydd o alcohol.
- Gwiriadau pwysedd gwaed, pwls a dirlawnder ocsigen.
- Gwiriadau glwcos gwaed os yw'r meini prawf yn cael eu bodloni.
- Cyngor ar roi'r gorau i ysmygu.
- Gwybodaeth am sgrinio (e.e. sgrinio'r coluddyn) a brechu.
- Cyfeirio ac ymwybyddiaeth o gymorth iechyd meddwl.
Bydd cynnig Ffit i Ffermio yn parhau i gael ei adolygu a bydd yn cael ei addasu i gefnogi unrhyw anghenion a nodir.