Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Powys
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddarparu Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Powys.
Nod y cynllun yw:
- Cefnogi ac ymbweru mamau a theuluoedd i deimlo'n hyderus am fwydo ar y fron wrth fod allan ac o gwmpas y lle yn y gymuned.
- Cynnig ffordd hawdd i gymunedau a busnesau ddangos eu bod yn croesawu a chefnogi bwydo ar y fron.
- Codi ymwybyddiaeth am fuddion a rhwystrau bwydo ar y fron.
- Cefnogi busnesau a sefydliadau i fod yn fwy cyfeillgar tuag at fwydo ar y fron.
Mae'r Cynllun ar gael i unrhyw fusnes, lleoliad, neu sefydliad sydd am ddangos eu bod yn croesau mamau sy'n bwydo ar y fron a'u teuluoedd. Am ragor o wybodaeth a chofrestru eich eiddo gyda Chynllun Croesawu Bwydo ar y Fron ewch i Wefan BAIP
Mae Cyngor Sir Powys yn ymroddedig i gefnogi bwydo ar y fron, ac wedi cofrestru ein hadeiladau cyhoeddus fel rhan o'r Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Felly, mae croeso i aelodau o'r cyhoedd sydd am fwydo ar y fron, ymweld â'n lleoliadau yn ystod eu horiau agor arferol.