Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cyfiawnder Ieuenctid

Youth Justice Service logo
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) Powys yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sydd wedi bod yn ymhel ag ymddygiad troseddol. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys staff o'r gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf ac iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gallu helpu.

Mae'r YJS yn goruchwylio pobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio gan yr heddlu, neu eu dedfrydu gan y llys ieuenctid.

Byddwn yn edrych ar bob sefyllfa yn unigol a phenderfynu pa ymyrraeth sydd ei hangen. Gallai hynny gynnwys gwaith sy'n ymwneud yn benodol â'r drosedd a gyflawnodd yr unigolyn, cymorth gydag addysg, hyfforddiant a gwaith, neu help i drechu camddefnyddio sylweddau neu unrhyw broblemau iechyd.

Rydym yn gweithio gyda'r  a'r Panel  i helpu'r plant a'r bobl ifanc a'u teuluoedd sydd angen cymorth yn gynt.

Dioddefwyr

Mae Cyfiawnder Adferol yn ganolog i waith Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Powys. Mae hyn yn golygu bod dioddefwyr (yn bobl ifanc ac yn oedolion) y trosedd gan bobl ifanc yn gallu disgwyl gwrandawiad, a chymryd rhan os dymunant.

Byddwn yn ymgynghori â dioddefwyr trosedd ieuenctid ac yn trefnu i'r sawl a'i cyflawnodd wneud yn iawn amdano neu ddefnyddio ffurfiau eraill ar iawndal lle bo hynny'n briodol. Byddwn hefyd yn cynorthwyo'r rhieni a'r gofalwyr.

Cyngor Pwysig

Pe byddai eich plentyn yn cael ei arestio neu ei holi (ei gyfweld yn wirfoddol) mewn cysylltiad â'i ymddygiad troseddol, byddai Cyfiawnder Ieuenctid Powys yn argymell yn gryf y dylech geisio cyngor cyfreithiwr, yn hytrach na'i fod yn cael ei gyfweld heb siarad â chyfreithiwr yn gyntaf.

Cysylltiadau

  • Ebost: yjsadmin@powys.gov.uk
  • Rhif ffôn: 01686 614005 (Gogledd)
  • Rhif ffôn: 01874 615986 (De)
  • Cyfeiriad: Ty Ladywell, 1 Stryd yr Eglwys Newydd,Y Drenewydd, Powys, SY16 1AF (Gogledd)
  • Cyfeiriad: Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR (De)

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu