Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoliad Joni

Work Experience Photo Joni

Ym mis Gorffennaf 2024, cymerodd Joni Playdon, disgybl o Ysgol Lady Hawkins, ran mewn Lleoliad 1 wythnos gyda'n Tîm Priffyrdd yn Aberhonddu. Dyma ddyfyniad o'i dyddiadur:

 

Photo of Joni
Diwrnod 1

Cefais fy nghyfarch gan Phillip, rheolwr ardal priffyrdd De Powys, a chefais sesiwn gynefino drylwyr iawn i wneud yn siwr fy mod yn ddiogel yn y gweithle. Ar ôl hyn roeddwn i'n 'barod amdani' ac fe gefais fest hi-viz a phâr o esgidiau gwaith.

Treuliais y prynhawn gyda'r arolygydd priffyrdd ardal a eglurodd Gynllun Cynnal a Chadw Priffyrdd Powys. Diben hwn yw nodi pryd y mae angen archwilio ffyrdd fel y gall y Cyngor godi diffygion a sicrhau eu bod yn ddiogel i'r cyhoedd. 

Dysgais hefyd sut mae arian y Cyngor yn cael ei ddyrannu i gyllidebau ar gyfer tasgau priffyrdd bob dydd fel trwsio tyllau yn y ffordd, glanhau draeniau, torri ymylon glaswellt, cloddio beddau, atgyweirio meysydd parcio ac ati. Daw'r arian hwn o gyllideb 'refeniw' sy'n dod o arian a godir o'r dreth gyngor. Dysgais fod prosiectau mwy fel gosod wyneb newydd ar y ffordd yn dod o gyllideb 'cyfalaf' sy'n dod o arian yn uniongyrchol o'r llywodraeth i gyngor Powys.

 

 

Diwrnod 2 

Cefais fore diddorol yn gwneud dyletswyddau gweinyddol gyda Libby. Dangosodd imi sut y defnyddir taflenni amser i gostio gwaith i gyllidebau. Esboniodd hefyd sut y caiff deunyddiau, nwyddau a gwasanaethau eu prynu. 

Yn y prynhawn, fe wnes i gynorthwyo gydag archwiliad ffordd a mewnbynnu data ar dabled, cofnodi cyflwr y ffyrdd a thynnu sylw at 3 diffyg.

Dysgais fod tri phrif ffordd o drwsio ffyrdd: atgyweirio ceudyllau/ardaloedd bach, gwisgo arwyneb (gan ychwanegu haenen uchaf newydd i estyn oes y ffordd, a gosod wyneb newydd yn llwyr.

 

 

Diwrnod 3 
Photo of Joni learning about the equipment used in the cabs

Treuliais y diwrnod gyda David a Vincent, 2 arolygydd ardal, a oedd yn cynnal archwiliadau ar ffyrdd A a B a rhoddais ddata ar eu cyfer ar y tabledi. Fe wnaethom hefyd archwilio draeniau a phibellau sy'n mynd o dan y ffordd i sicrhau nad oeddent wedi'u blocio.

Fe wnaethom deithio 132 milltir i gyd - ni allaf gredu pa mor fawr yw Powys (a dim ond cyfran fach iawn ohoni yr oeddem yn ei chwmpasu)!

 

 

Diwrnod 4 
Photo of Joni in the office

Ymunais â Carl a'r gang sy'n gosod arwyneb newydd ar ffyrdd, ac roedden nhw'n gosod arwyneb newydd sbon i ran o'r ffordd. Fe'u gwelais yn gosod y tarmac newydd (o bellter diogel i ffwrdd) ac roedd hyn yn hwyl.

Yna, ymunais â'r arolygydd ardal i ail-ymweld â'r grid gwartheg a oedd wedi torri y daethom ar ei draws  yn ystod yr arolygiad ddydd Mawrth. Fe wnaethom gyfarfod â gweithredwyr ar y safle i drafod ei atgyweirio.

Yn ddiweddarach ymunais â Jonathan o'r Tîm Peirianneg i ymweld ag Ysgol Uwchradd Aberhonddu i edrych ar y caeau gemau yr oedd wedi'u cynllunio. Fe wnaethom gyfarfod â'r swyddog ecoleg a chontractwr allanol i drafod sut y byddai'r maes yn cael ei gynnal.

 

 

Diwrnod 5 
Photo of Joni measuring a road

Ymwelais â rhannau o'r ffordd a oedd yn cael eu hargymell ar gyfer gwisgo arwyneb a helpais i fesur hyd a lled y ffordd a helpu i gyfrifo costau.

Rwyf wedi mwynhau fy wythnos yng Nghyngor Powys, ac mae wedi gwibio heibio. Doedd dim syniad gen i am yr holl bethau y mae'r Cyngor yn gofalu amdanynt ac yn eu cynnal - a dyna'r adran briffyrdd yn unig! Roedd yr holl staff yn ddefnyddiol a charedig iawn i mi ac aeth pob un ohonynt allan o'u ffordd i ateb fy nghwestiynau a'm cadw'n ddiogel. 

Mae'r wythnos hon wedi gwirioneddol agor fy llygaid i'r holl gyfleoedd eang ac amrywiol y gall cyngor sir eu cynnig o ran swyddi.


Os hoffech gael gwybod rhagor am gyfleoedd profiad gwaith yng Nghyngor Sir Powys, mae croeso i chi gysylltu â ni. Cwblhewch y ffurflen gyswllt gychwynnol a bydd un o'r tîm yn cysylltu â chi.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu