Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiad Recriwtio ar-lein ar gyfer gweithwyr cymdeithasol profiadol

Dyddiad ac Amser: Dydd Iau 26 Medi 2024, 6pm - 7pm ar Microsoft Teams

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu ein digwyddiad, cofrestrwch eich diddordeb a'ch manylion isod. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i'ch galluogi i ymuno â'n digwyddiad recriwtio. Bydd dolen Teams ar gyfer y digwyddiad yn cael ei hanfon i'r cyfeiriad e-bost a ddarperir gennych.

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o rolau uwch a gweithwyr cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Plant. Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a all rannu eu harbenigedd, eu profiad a'u gwybodaeth am waith achos i ategu ein timau presennol a gwneud gwahaniaeth i'r teuluoedd rydym yn eu cefnogi.

Mae ein digwyddiad ar-lein yn gyfle gwych i gael gwybod mwy am swyddi gwag presennol, i glywed am ein cynlluniau a'n blaenoriaethau, a hefyd i ofyn cwestiynau i'n tîm cyfeillgar. Bydd ein staff gwych yn siarad am sut beth yw gweithio yn y gwasanaeth blaengar hwn a'r manteision y gallai gynnig i chi.  

Os ydych chi'n credu yng ngrym gwaith cymdeithasol i gefnogi pobl i newid eu bywydau er gwell, dyma amser gwych i ymuno â ni. Rydym wedi buddsoddi yn ein gwasanaeth a'n gweithlu fel y bydd gennych lwyth achosion y gellir ei reoli a'r cymorth sydd ei angen arnoch i wneud y gwaith rydych chi'n ei garu, gan dreulio amser gyda'r plant a'r teuluoedd rydych chi'n eu cefnogi.  

Yn ogystal, mae Powys yn agosach nag y credwch, llai na 50 milltir o rai o ddinasoedd mwyaf y DU ac mae'n cynnig cyfleoedd gyrfa gwych. Bydd gennych gydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith gydag amser i fwynhau eich teulu a'r tirweddau hardd yng nghanol Cymru.

I weld ein swyddi gwag ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, ewch i

Swyddi a hyfforddiant - Cyngor Sir Powys

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu