Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae'n bosibl y bydd Diwrnodau Hyfforddiant Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 21 Hydref a 25 yn effeithio ar amseroedd aros dros y ffôn

Cam 1: Mathau o Geisiadau

application types

Mae tri phrif fath:

  • Cais Cynlluniau Llawn- rydym yn gwirio bod eich cynlluniau'n bodloni'r Rheoliadau Adeiladu ac yna, pan fyddwch yn dechrau, byddwn yn archwilio'r gwaith adeiladu ar y safle.
  • Cais Hysbysiad Adeiladu - yn gyffredinol ar gyfer prosiectau llai. Nid oes angen ichi anfon cynlluniau manwl atom.
  • Cais unioni- ar gyfer gwaith adeiladu sydd eisoes wedi'i wneud a'i gwblhau heb reolaeth adeiladu.

Ehangwch yr adrannau isod am fwy o wybodaeth am bob math o gais.

Cynlluniau Llawn

Rydym yn gwirio bod eich cynlluniau'n bodloni'r Rheoliadau Adeiladu ac yna, pan fyddwch yn dechrau, byddwn yn archwilio'r gwaith adeiladu ar y safle.

Dyma'r opsiwn mwyaf trwyadl wrth i ni wirio eich cynlluniau i sicrhau y bydd eich gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.

Bydd angen i chi gyflwyno lluniadau/cynlluniau manwl a manylion adeiladu. Bydd ein Harolygwyr Adeiladu Cofrestredig (RBIs) yn gwirio'r cynlluniau, ac yna'n cysylltu â chi, neu eich asiant cynrychioli os oes angen rhagor o wybodaeth neu ddiwygiadau.

Yn dilyn ein hasesiad cychwynnol, gallwch ddisgwyl penderfyniad (h.y. byddwn yn cymeradwyo, yn cymeradwyo'n amodol neu'n gwrthod eich cynlluniau) o fewn pum wythnos (neu o fewn dau fis gyda'ch caniatâd). Ein nod yw gwneud penderfyniad hyd yn oed yn gynt os oes gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom a bod ein hymholiadau'n cael eu hateb yn brydlon.

Yna byddwn yn archwilio'r gwaith adeiladu ar y safle wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen.

Mae ffioedd yn daladwy mewn dwy ran am gais cynlluniau llawn:

  • y 'tâl cynllun' - byddwch yn talu hwn pan fyddwch yn cyflwyno eich cais
  • y 'tâl archwilio' - a anfonebir at y person a enwir fel ymgeisydd/perchennog yn dilyn ein harolwg cyntaf o'r prosiect.

Ar ddiwedd y prosiect, cyn belled â bod y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r rheoliadau, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif gwblhau.

Hysbysiad adeiladu

Gallwch ddechrau ar y gwaith ddau ddiwrnod ar ôl i'ch hysbysiad gael ei gyflwyno. Nid ydych yn cael penderfyniad ffurfiol fel sy'n digwydd gyda cheisiadau cynlluniau llawn gan nad ydym yn cynnal asesiad o'ch cynlluniau.

Rydym yn archwilio'r gwaith adeiladu ar y safle wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen. Ar ddiwedd y prosiect, cyn belled â bod y gwaith adeiladu yn cydymffurfio â'r rheoliadau, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif gwblhau.

Ar gyfer eiddo masnachol neu waith sydd i'w adeiladu yn agos at neu dros garthffos, rhaid i chi wneud cais am Gynlluniau Llawn.

Mae angen i chi dalu am eich cais am hysbysiad adeiladu pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Unioni

Mae 'unioni' neu gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud heb gais neu gymeradwyaeth o dan y Rheoliadau Adeiladu.  Byddwn yn archwilio'r gwaith a gafodd ei wneud ac yn cynghori a oes angen unrhyw waith pellach. Weithiau, efallai y bydd angen datgelu gwaith fel y gallwn fod yn siŵr sut y cafodd ei osod. Dim ond gwaith a wnaed ar ôl 11 Tachwedd 1985 y gellir ei gymeradwyo fel hyn.

Cyn belled â'n bod ni'n gallu gweld bod y gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r rheoliadau, byddwn yn cyhoeddi Tystysgrif Unioni.

Mae angen i chi dalu am eich cais unioni pan fyddwch yn cyflwyno eich cais.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu