Toglo gwelededd dewislen symudol

Pam defnyddio Tîm Rheolaeth Adeiladu Powys?

why use Powys BC

Canolbwyntio ar y Cwsmer

Mae ein gwasanaeth yn ymfalchïo mewn darparu gwasanaethau rhagorol ac ymatebol, ac Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (RBI's) lleol cymwys a medrus, proses ymgeisio hawdd, gwasanaeth gwirio cynlluniau cyflym ac effeithlon, staff hawdd mynd atynt a chyfeillgar. Rydym yn sicrhau y bydd ein RBI's yn adeiladu partneriaeth waith gref ac effeithiol gyda chi a/neu eich adeiladwr drwy gydol y prosiect.

Arbenigedd Technegol

Fel gwasanaeth Rheolaeth Adeiladu eich awdurdod lleol, hoffem achub ar y cyfle cynnar hwn i'ch cyflwyno i'n tîm Rheolaeth Adeiladu gwobrwyedig sydd wrth law i'ch cynorthwyo gyda'ch cais am reoliadau adeiladu. Mae ein gwybodaeth leol fanwl heb ei hail yn cefnogi arbenigedd technegol y tîm ymhellach.

Diduedd ac Nid-er-elw

Mae Rheoleth Adeiladu Powys yn gweithredu fel gwasanaeth cyhoeddus nid-er-elw sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am eich holl anghenion rheoliadau adeiladu. Mae Sicrwydd Ansawdd ISO9001:2015 gennym, ac rydym wedi'n harchwilio'n annibynnol gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ac aelodau Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol Cymru, sef y corff sy'n cynrychioli rheolaeth adeiladu awdurdodau lleol yng Nghymru.

Rhagweithiol

Er mwyn osgoi costau ac oedi diangen a newidiadau cynllunio posibl yn ddiweddarach, rydym bob amser o blaid trafodaethau cynnar gyda ni fel eich bod yn ymwybodol o ofynion y rheoliadau adeiladu cyn gynted â phosibl yn ystod y broses ddylunio.

Ymholiadau technegol

Ar gyfer ymholiadau technegol, cysylltwch yn uniongyrchol â'r Arolygwyr Adeiladu Cofrestredig (RBI).

Rhestrir holl fanylion cyswllt ein Harolygwyr Cofrestredig Adeiladu (RBIs) a lledamcan o'r meysydd y maent yn ymdrin â hwy isod. Mae ein syrfewyr fel arfer yn mynd allan i'r safle bob dydd - felly efallai na fyddant bob amser yn gallu ateb eich galwad. Gadewch neges iddynt a byddant yn cysylltu â chi pan fyddant yn rhydd.

E-bostiwch ni

Ar buildingcontrol@powys.gov.uk dyma'r ffordd gyflymaf a hawsaf o gysylltu â'n tîm. Rydym yn monitro ein mewnflwch o ddydd Llun i ddydd Gwener ac yn anelu at ymateb i bob e-bost.

Ffoniwch ni

Os ydych yn gwneud cais ar frys, ffoniwch ein tîm cymorth technegol ar 01874 612290 a gwnawn ein gorau i'ch helpu.  Os yw ein llinell yn brysur, gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi.

Dilynwch ni

Facebook Rheoli Adeiladu Powys

https://x.com/PowysLABC

Post

Os hoffech bostio unrhyw beth atom, defnyddiwch y cyfeiriad isod.

Rheolaeth Adeiladu, Cyngor Sir Powys, Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys, LD3 7HR

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu