Gofyn archwiliad ar gyfer Rheoli Adeiladu
Pryd i drefnu archwiliad
Pan fyddwch wedi cyflwyno'ch cais, a'i fod wedi'i ddilysu neu ei gymeradwyo (yn dibynnu ar y math o gais), rhaid ichi roi rhybudd i ni pan rydych am ddechrau ar y gwaith. Bydd ARhA yn ymweld â'r safle ac yn rhoi gwybod i chi pa gamau o'ch prosiect yr hoffent eu harchwilio.
Mae'r canlynol yn gamau nodweddiadol a all fod angen archwiliad, er ei fod yn dibynnu ar y math o waith a wneir felly efallai na fydd pob un ohonynt yn berthnasol i'ch prosiect. Os ydych yn pryderu neu'n gwybod am waith sy'n cael ei wneud heb gyflwyno cais Rheoli Adeiladu dilys i'r Cyngor, rhowch wybod i ni.
1. Cychwyn
2. Cloddio am sylfeini (cyn i goncrit gael ei arllwys)
3. Cwrs Gwrth Leithder
4. Gorchudd safle gyda philen gwrth leithder wedi'i osod os yw'n briodol
5. Gosod draeniau cyn ôl-lenwi
6. Draeniau wedi'u hôl-lenwi ac yn barod i'w profi ar gyfer dal dŵr
7. Coed Strwythurol
8. Cwblhad
Gall nifer yr archwiliadau hefyd ddibynnu ar y gwaith adeiladu, a chytunir ar hyn rhwng yr ARhA a'r cleient pan fydd yn dechrau.
Sut i drefnu archwiliad
- Cysylltwch â ni y diwrnod cyn yr hoffech i ni ymweld â chi, ac yn gyffredinol gallwn wneud y diwrnod canlynol. Rydym yn arolygu o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y dydd.
- Sganiwch y Cod QR
- Lawrlwythwch Ap arolygu LABC
- Ebostiwch: buildingcontrol@powys.gov.uk
Dylech drefnu gyda ni'n rheolaidd i archwilio'r gwaith adeiladu ar adegau allweddol o'r prosiect.