Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyno Hysbysiad Dymchweliad

Notice of demolition

Os ydych yn bwriadu dymchwel adeilad, fel arfer bydd angen i chi roi gwybod i:

  • eich awdurdod lleol
  • cyflenwyr nwy a thrydan
  • meddianwyr adeiladau cyfagos

o leiaf chwe wythnos ymlaen llaw.

Gwiriwch a oes angen caniatâd cynllunio neu ganiatâd ymlaen llaw arnoch

Efallai y bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio neu ganiatâd ymlaen llaw hefyd. Cysylltwch ag ymholiadau cynllunio ar 01597 827161 neu planning.services@powys.gov.uk

Ffioedd

Bydd angen i chi dalu £95.00 pan fyddwch yn cyflwyno'r hysbysiad hwn ar-lein.

Mae gennym hawl i godi tâl am dreuliau rhesymol adolygu hysbysiad Adran 80 a pharatoi hysbysiad o dan Adran 81 Deddf Adeiladu 1984 a goruchwylio gwaith ar unrhyw safle.

Cyflwyno Hysbysiad Dymchwel - Adran 80

Gallwch gyflwyno Hysbysiad Dymchweliad ar-lein. Bydd angen i chi gyflwyno cynllun i raddfa  ddim llai nag 1:1250 sy'n dangos maint a safle'r adeilad i'w ddymchwel a'i berthynas ag eiddo cyfagos felly byddwch yn barod am hyn cyn llenwi'r ffurflen.

Eich cyfrifoldebau a'r gyfraith

Ni ddylech ddechrau dymchweliad oni bai bod yr Awdurdod Lleol wedi rhoi hysbysiad o dan Adran 81 neu fod y cyfnod perthnasol (chwe wythnos) wedi dod i ben.

Eich dyletswydd chi yw anfon neu roi copi o'r hysbysiad i feddiannydd unrhyw adeilad sy'n gyfagos â'r adeilad, i'r cyflenwr nwy ac i'r cyflenwr trydan.

Os fyddwch chi'n mynd yn groes i Adran 80, byddwch yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Mae'r nodiadau hyn ar gyfer canllawiau cyffredinol yn unig; cynhwysir manylion ynghylch dymchwel adeiladau yn Adran 80, 81 ac 82 Deddf Adeiladu 1984.

Dylai pob ymgeisydd hefyd fod yn ymwybodol o Ddeddf Waliau Cydrannol 1996.

Eithriadau

Nid oes angen i chi gyflwyno hysbysiad dymchweliad (adran 80) i ni os ydych yn bwriadu dymchwel:

  • rhan fewnol o adeilad, lle mae'r adeilad wedi'i feddiannu, a'r bwriad yw y dylid parhau i'w feddiannu
  • adeilad llai na 50m3 (cyfaint allanol)
  • tŷ gwydr, heulfan, sied neu garej parod, lle maent yn rhan o adeilad mwy
  • adeilad amaethyddol oni bai ei fod wedi ei gysylltu ag adeilad anamaethyddol arall.

Am fanylion llawn gweler Adran 80, paragraff 1 Deddf Adeiladu 1984.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu