Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Tystebau 3

Mae fy ymwneud â Rheolaeth Adeiladu yng Nghyngor Sir Powys wedi ymestyn dros gyfnod o nifer o flynyddoedd, ac mae'r gwasanaeth a ddarperir gan y gwahanol Swyddogion yn ystod y cyfnod hwnnw wedi bod yn gadarnhaol, yn ddefnyddiol ac yn hynod broffesiynol. Gwerthfawrogwyd yn arbennig y cyngor a'r cymorth a roddwyd ar hyd pob cam Contractau Adeiladu o'r dechrau i'r diwedd.

Mae'r Swyddogion Technegol yn cael cymorth gan dîm Gweinyddol sydd eto'n hawdd cysylltu â nhw ac yn gymwynasgar yn eu ffordd a'u hanian cyffredinol. 

Mae'n amlwg o'r sylwadau a wnaed uchod fod y gwasanaeth a ddarperir gan yr Awdurdod yn cael ei werthfawrogi a'i ddefnyddio'n rheolaidd, trefniant a fydd yn parhau hyd y gellir rhagweld.

Glyn Smith, Pensaer

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu