Neges Groeso
Diolch i chi am fanteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am weithio ym maes Gwasanaethau Oedolion yng Nghyngor Sir Powys.
Credwn fod pawb sy'n cysylltu â'r Gwasanaethau Oedolion am gymorth yn unigryw, gyda chryfderau'n ogystal ag anghenion. Ein nod yw helpu pobl i fyw eu bywydau gorau drwy roi ffocws ar beth sy'n bwysig iddynt.
Mae'r weledigaeth hon wedi'i chysylltu i Gyd-Strategaeth Iechyd a Gofal Powys sy'n ceisio hyrwyddo annibyniaeth a hunanofal drwy ddull seiliedig ar gryfderau bob tro lle bo'n bosib. Mae'r dull hwn yn gweu drwy bopeth a wnawn. Mae'n gwneud synnwyr i'n preswylwyr ac yn amlach na pheidio'n ein helpu fel gwasanaeth i ddarparu gofal a chymorth cost-effeithlon.
Awdurdod gwledig yw Powys sy'n ymestyn dros 25% o dir Cymru. Mae arloesi, felly, nid yn unig yn rhywbeth braf i'w gael ond yn elfen hanfodol o sut y darparwn ofal a chymorth cynaliadwy. Ymrwymwn yn gryf i gofleidio technoleg ddigidol i'n helpu i weithio a darparu gofal a chymorth ac rydym yn falch o'n henw da am lwyddo i hyrwyddo gofal drwy dechnoleg a helpu preswylwyr i ddefnyddio cyngor a gwybodaeth ar-lein.
Mae popeth a wnawn yn digwydd mewn partneriaeth ac ymfalchïwn yn y gwaith a gyd-ddatblygwn â'n cydweithwyr yn y maes iechyd a'r trydydd sector, heb sôn am yr amrywiol grwpiau cynnwys dinasyddion sy'n ein helpu i ddylunio ein gwasanaethau.
Mae ein rhaglen Ffyrdd Newydd o Weithio wedi creu dulliau mwy hyblyg o ran sut a ble'r ydym yn gweithio ac rydym yn ffyddiog y gallwn gynnig swydd y gallwch addasu eich ymrwymiadau eraill o'i chwmpas.
Mae Powys yn lle gwych i fyw a gweithio gyda grŵp o staff a thîm arweinyddiaeth ymroddedig sydd i gyd yn gwneud eu gorau glas er mwyn ein preswylwyr, pob dydd.
Os ydych yn deall potensial y Gwasanaethau Oedolion i drawsnewid ac eisiau cyfrannu at wella bywydau pobl Powys, dylech ddarllen ymlaen!