Ein Gweledigaeth
Ein Gwerthoedd
- Proffesiynol
- Agored
- Positif
- Cydweithredol
- Blaengar
Gweledigaeth Glir ac Amcanion Gwella
Mae Gofal Cymdeithasol yn credu fod pawb yn unigryw gyda chryfderau a gobeithion yn ogystal ag anghenion. Byddwn yn helpu pobl i fyw'r bywyd gorau posib, a thrwy ganolbwyntio ar beth sy'n bwysig i bobl, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw i'w helpu i ganfod yr atebion gorau iddynt.
Mae'r weledigaeth hon wedi'i chysylltu i Gyd-Strategaeth Iechyd a Gofal Powys sy'n ceisio hyrwyddo annibyniaeth a hunanofal drwy ddull seiliedig ar gryfderau bob tro lle bo'n bosib.
Mae gennym 7 prif amcan sy'n ein helpu i reoli'r galw am ein gwasanaethau a rhoi'r canlyniadau gorau posib i'n preswylwyr ar yr un pryd:
Drws Ffrynt - darparwn gyngor, gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ymlaen i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus am eu gofal a'u lles. Gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar ateb y broblem i'r preswyliwr cyn gynted â phosib.
Ysbyty - er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posib i'n preswylwyr, gweithio gyda'n partneriaid yn y GIG i roi cyfres o drefniadau yn eu lle er mwyn gallu trosglwyddo pobl allan o'r ysbyty cyn gynted â phosib.
Partneriaeth - gweithiwn gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i fabwysiadu ac adfywio dull adferol ym mhob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol.
Cymuned- gweithiwn i sicrhau gwasanaethau ail-alluogi, adsefydlu a chymorth amserol, effeithiol ac wedi eu targedu. Rhoddwn ffocws ar annibyniaeth a hunanreolaeth gan osgoi gor-ddarparu gofal.
Gofal Hirdymor - mae gan bobl ag anghenion gofal hirdymor gynllun gofal a chymorth lle y mae'r ffocws ar fod mor annibynnol â phosib (fel sy'n realistig a phosib i'w hamgylchiadau) ac sy'n darparu'r canlyniadau sydd mewn golwg.
Gweithlu - mae ein gweithlu'n cael ei hyfforddi a'i gefnogi'n llawn i weithio gyda phobl sydd angen gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd ag ethos ac egwyddorion y Cyngor.
Rheoli - casglwn ynghyd a dadansoddwn ddata i'n helpu i ddeall a gawsom effaith ar y canlyniadau a brofir gan bobl ac ar sut y rheolwn y galw ar ein gwasanaethau.