Neges Groeso
Helo a chroeso i Gyngor Sir Powys. Diolch i chi am eich diddordeb mewn gweithio gyda Gwasanaethau Plant Powys. Mae Powys yn lle gwych i fyw a gweithio a dim ond 40 milltir o rai o'r dinasoedd mwyaf.
Yma ym Mhowys, rydym yn buddsoddi mewn rhoi plant wrth galon popeth a wnawn. Ein fframwaith ymarfer yw Arwyddion Diogelwch ac ymrwymwn i ddarparu ymarfer ar sail cryfderau, ar bob lefel. Mae gennym Dîm Uwch-Arweinyddiaeth gwych sy'n ymroddedig ac yn teimlo'n gryf am ddarparu diwylliant o ddysgu cefnogol yn ein gwasanaeth.
Rydym yn awyddus i recriwtio a chadw gweithlu medrus er mwyn darparu gofal a chymorth o ansawdd uchel i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Gweithiwn yn galed i sicrhau cyfleoedd datblygu a symud ymlaen i'n staff ac mae gennym raglenni hyfforddiant gyda themâu penodol pob mis. Darparwn hefyd oruchwyliaeth fyfyriol, sesiynau mapio ac anogwn fod yn agored i ymarfer. Mae ein cynllun gwaith cymdeithasol 'Tyfu ein Hunain' yn parhau i lwyddo drwy hyrwyddo twf ein staff mewnol. Mae myfyrwyr hefyd yn bwysig i ni ac rydym eisiau gallu cynnig yr amgylchedd dysgu gorau posib. Felly os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn asesydd ymarfer, dyma'r lle i fod.
Anogwn unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd dysgu cefnogol ac ymroddedig, sy'n darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf, i ddod i Bowys i weithio. Mae Powys yn lle gwych i fyw, gweithio ac ymlacio.