Gweithio ym maes Gwasanaethau Plant
Os credwch fod gan waith cymdeithasol y pŵer i newid pethau er gwell, mae hwn yn amser da iawn i chi ymuno â Gwasanaethau Plant Powys.
Mae gennym ffocws cryf ar gymorth cynnar ac ymyrryd ac atal sy'n ystyrlon.
Mae ein strwythur yn:
- Rhoi lle i fyfyrio ac amser i weithio o ddifrif â phlant a theuluoedd.
- Cynorthwyo llwythi achosion cytbwys.
Rydym wedi mabwysiadu'r dull Arwyddion Diogelwch o gynorthwyo ymarferwyr i weithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i'w helpu i gyflawni eu hamcanion a gwneud y newid sydd ei angen arnynt yn eu bywydau.
Ein Gwerthoedd:
Proffesiynol, Agored, Positif, Cydweithredol, Blaengar
Mae Powys yn lle gwych i fyw!
Mae Powys yn sir hynod hardd sy'n cynnig golygfeydd godidog a thirluniau ysblennydd, gyda mannau gwyrdd agored a threfi marchnad byrlymus.
Mae gan y sir theatrau ardderchog, treftadaeth diwylliant Cymraeg fywiog a sin gelfyddyd a chrefft ffyniannus.
Mae Powys yn gartref i ddigwyddiadau hynod iawn.
Mae gan Wŷl Lenyddiaeth y Gelli Gandryll enw rhyngwladol sy'n denu awduron ac enwogion o fri. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn prysur ddod yn un o'r gwyliau cerdd mwyaf ffasiynol dros fisoedd yr haf a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yw'r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop.
Gallech dreulio eich penwythnosau'n cerdded a chael anturiaethau ar hyd y 2,000 milltir sgwâr o gefn gwlad - mae rhywbeth i bawb: caredigion bywyd gwyllt, cerddwyr, beicwyr mynydd a marchogion. Mae gan selogion chwaraeon ddigon o ddewis gydag amryw o glybiau pêl-droed, rygbi, criced a golff i ddewis ohonynt.
Mae yma naws gymunedol a theimlad o agosatrwydd, a rhwydwaith o gymdogaethau lleol cryf. Mae'r Sir hefyd yn cynnig lles a chymunedau diogel a chefnogol i fyw ynddynt.