Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes A llinellau Dyfarniadau ar gau 5 Rhagfyr oherwydd hyfforddiant staff.

Gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion

working for AS

Cefnogwn bobl i fyw'r bywyd gorau posib. Drwy roi ffocws ar beth sy'n bwysig, gweithiwn ochr yn ochr â phobl i'w helpu i ddod o hyd i'r atebion iawn.  

Mae gan Ofal Cymdeithasol Oedolion amryw o dimau arbenigol sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor neu gymorth. Gweithiwn mewn cydweithrediad ar draws Gofal Cymdeithasol Oedolion a'r timau Comisiynu, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a'r sectorau preifat a gwirfoddol.

Lle Gwych i Fyw

Mae Powys yn sir hynod hardd sy'n cynnig golygfeydd godidog a thirluniau ysblennydd, gyda mannau gwyrdd agored a threfi marchnad byrlymus.

Mae gan y sir theatrau ardderchog, treftadaeth diwylliant Cymraeg fywiog a sîn gelfyddyd a chrefft ffyniannus.

Mae Powys yn gartref i ddigwyddiadau hynod iawn. Mae gan Wŷl Lenyddiaeth y Gelli Gandryll enw rhyngwladol sy'n denu awduron ac enwogion o fri. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn prysur ddod yn un o'r gwyliau cerdd mwyaf ffasiynol dros fisoedd yr haf a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yw'r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop.

Gallech dreulio eich penwythnosau'n cerdded a chael anturiaethau ar hyd y 2,000 milltir sgwâr o gefn gwlad - mae rhywbeth i bawb: caredigion bywyd gwyllt, cerddwyr, beicwyr mynydd a marchogion. Mae gan selogion chwaraeon ddigon o ddewis gydag amryw o glybiau pêl-droed, rygbi, criced a golff i ddewis ohonynt.

Mae yma naws gymunedol a theimlad o agosatrwydd, a rhwydwaith o gymdogaethau lleol cryf. Mae'r Sir hefyd yn cynnig lles a chymunedau diogel a chefnogol i fyw ynddynt.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu