Ein meysydd gwasanaeth
Drws Ffrynt
Hwn yw'r pwynt mynediad i Wasanaethau Plant Powys. Gall teuluoedd gysylltu â ni'n uniongyrchol am wybodaeth, cyngor a chymorth. Y gwasanaeth hwn sydd hefyd yn derbyn cyfeiriadau at y Gwasanaethau Plant gan deuluoedd, asiantaethau eraill a gweithwyr proffesiynol.
Unwaith y bydd Drws Ffrynt wedi derbyn cyfeiriad, mae gweithwyr cymdeithasol a staff gwybodaeth, cynghori a chymorth yn casglu gwybodaeth gan deuluoedd a'n cydweithwyr amlasiantaethol. Gall Drws Ffrynt yna symud ymlaen at benderfynu'r camau nesaf, gan asesu pa gymorth sydd ei angen ac a gyrhaeddwyd y trothwy ar gyfer Cymorth Cynnar neu ymyrraeth gofal cymdeithasol. Rydym yn sicrhau bod pob cyfeiriad yn cael sylw cymesur a phriodol gan ddibynnu ar angen a risg, a chadw at yr amserlen briodol.
Unwaith y bydd penderfyniad wedi'i wneud, trosglwyddir y plant a / neu'r bobl ifanc i'r tîm fydd yn cynnig y cymorth, a lle bo angen, yn gwneud yr asesiad.
Y Tîm Asesu
Gweithwyr cymdeithasol y tîm hwn sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd i wneud Asesiadau Lles ac ymholiadau adran 47. Sicrhawn fod cryfderau, anghenion ac unrhyw risg yn cael eu hadnabod a'u hasesu i sicrhau ymyrryd effeithiol.
Os oes angen cyfraniad pellach, mae'r plentyn, person ifanc a'r teulu wrth ganol y cynllun ac yn rhan o'i gyd-gynhyrchu. Ar ôl asesu, mae rhai teuluoedd yn cael eu 'camu lawr' i'n tîm cymorth cynnar neu'n symud ymlaen i dderbyn Gofal a Chymorth.
Cymorth Cynnar
Gweithiwn gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd ar y cyfle cyntaf posib i'w helpu i wneud newidiadau er mwyn cyflawni eu hamcanion teuluol ac osgoi'r angen am ymyriadau gwaith cymdeithasol statudol.
Gweithiwn yn agos â chydweithwyr iechyd, addysg, tai ac asiantaethau partner eraill, gan gynnwys y trydydd sector, i helpu teuluoedd i gysylltu i'w cymunedau.
Gofal a Chymorth
Mae'r timau hyn yn canolbwyntio ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd os yw asesiad Gwaith Cymdeithasol wedi'i wneud a chawsant eu hadnabod i fod angen gwasanaethau ychwanegol. Gallent fod yn blant sydd angen gofal a chymorth neu angen eu hamddiffyn a theuluoedd sy'n rhan o broses yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) mewn achos llys.
Mae Tîm Gofal a Chymorth y Gogledd yn gweithio ar draws yr ardal o'r Drenewydd i fyny at Groesoswallt. Mae Tîm y De'n gweithio ar draws yr ardal rhwng Trefyclo ac Ystradgynlais.
Mae'r timau hyn yn cynnwys Rheolwyr Tîm, Prif ac Uwch-Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, a Gweithwyr Lles. Yn ogystal, mae'r timau'n cael eu cefnogi'n dda gan Gydlynwyr Tîm sy'n sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn.
Ar hyn o bryd gweithredwn ddull ardal leol o ddyrannu gweithwyr fel bod angen teithio llai o gwmpas yr ardal er mwyn gallu treulio mwy o amser yn gweithio gyda, a chefnogi plant a'u teuluoedd. Mae'r dull hwn yn cynorthwyo cyfathrebu gwell a pherthynas weithio well â'n hasiantaethau partner.
Y Tîm Llysoedd
Mae'r Tîm Llysoedd yn dîm bach arbenigol o dan ymbarél ehangach y gwasanaeth Gofal a Chymorth, sy'n ystyried cynlluniau gofal a pharhad mwy hirdymor pobl ifanc. Mae'r ffocws ar sicrhau y gwneir y penderfyniadau gorau ar gyfer achosion plant, o'r Gwrandawiad Cyntaf i'r Gorchymyn Terfynol. Er yn gweithio'n galed i sicrhau bod plant yn aros yn eu teuluoedd genedigol, deliwn hefyd ag achosion Lleoli a Mabwysiadu os yw'r llys yn meddwl bod angen hynny.
Mae'r tîm yn gweithio'n agos â chydweithwyr yn y Timau Gofal a Chymorth a Gofal Drwy'r Broses, a gyda'r timau Maethu, Amser Teulu, Ymyrryd ac Atal. Fel tîm, cawn ein cefnogi gan ein cydweithwyr Cyfreithiol a chan ein Cydlynydd Tîm, sy'n gweithio i gefnogi ein gweithwyr cymdeithasol yn eu gwaith pob dydd. Mae gennym hefyd ein Gweithiwr Lles ein hunain sy'n rhoi cymorth i'n teuluoedd yn ogystal ag i'r gweithwyr cymdeithasol. Mae gennym Glerc Ansawdd Data sy'n ein cadw ar ben ein gofynion statudol a sicrhau bod ein hachosion yn drefnus.
Gydag achosion difyr a chymhleth, nid yw'r gwaith byth yn ddiflas a gweithiwn yn galed fel tîm i gefnogi ein gilydd. Gyda Rheolwr Tîm, Prif ac Uwch-Weithiwr Cymdeithasol, cawn ein rheoli'n dda. Rydym yn dîm cefnogol a phrofiadol lle y gall gweithwyr cymdeithasol ennill hyder a gwybodaeth a sicrhau canlyniadau positif i blant.
Yn ôl ein gweithwyr cymdeithasol, roedd gwaith llys yn apelio oherwydd mae'r achosion yn gymhleth gydag amserlen ffurfiol, gan olygu ei bod yn haws cydbwyso bywyd cartref a gwaith. Roeddent yn mwynhau'r achosion yn y llys meddent, yr amrywiaeth o asesiadau a'r ffocws ar ddod i adnabod y plentyn a deall eu dymuniadau a'u teimladau.
Y Gwasanaeth Anabledd Integredig (IDS)
Darparwn gymorth i blant anabl a'u teuluoedd i sicrhau eu bod yn derbyn gofal yn ddiogel a chyflawni eu canlyniadau lles. Defnyddiwn ddulliau'r Cynllun Person-Ganolog ac Arwyddion Diogelwch sy'n rhoi'r plentyn neu'r person ifanc wrth galon y gwaith o gynllunio cymorth, gyda'n partneriaid amlasiantaethol Iechyd ac Addysg arbenigol. Mae ein cyfrifoldebau'n cynnwys yr amrediad cyfan o ofal cymdeithasol i blant anabl, o Gymorth Cynnar, Gofal a Chymorth, Amddiffyn Plant a Phlant Mewn Gofal.
Mae dau dîm sydd wedi eu rhannu'n ddaearyddol rhwng Gogledd a De Powys. Mae pob tîm yn cynnwys Rheolwr Tîm, Prif ac Uwch-Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Lles, Gweithwyr Cymorth a Chydlynwyr Tîm. Rydym hefyd yn croesawu myfyrwyr gwaith cymdeithasol i'r tîm pob blwyddyn.
Mae'r ddau dîm wedi ennill gwybodaeth ac arbenigedd yn y maes ac yn groesawus a chefnogol. Cyfarfyddwn yn fisol wyneb yn wyneb ac mae pob tîm yn cael cyfarfod 'diweddaru' wythnosol. Cynhelir sesiynau ymgynghori misol â'r Seicolegydd mewnol hefyd. Cynhelir sesiynau goruchwylio misol i drafod gwaith achos a datblygiad proffesiynol. Trefnwn gyfarfodydd â'n partneriaid i rannu gwybodaeth am gefnogi plant anabl ac i gynllunio ar gyfer eu helpu dros y cyfnod o droi'n oedolyn. Mae cydweithio ag arbenigwyr eraill yn un o brif nodweddion ein gwaith.
Rhoddir hyfforddiant arbenigol i gadw ar y blaen i ddatblygiadau, sgiliau a gwybodaeth yn y maes anabledd.
Timau Gofal Drwy'r Broses
Yn y timau hyn, plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yw ein blaenoriaeth. Rydym wedi ein rhannu'n ddau dîm traws-sirol; mae un tîm yn gweithio gyda phlant rhwng 0-14 oed a'r tîm arall yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Rydym eisiau bod y rhiant gorau y gallwn fod a gweithiwn i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael pob cyfle i wireddu eu breuddwydion a chyflawni eu hamcanion bywyd.
Mae'r timau'n cynnwys Rheolwyr Tîm, Prif ac Uwch-Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Cymorth a Chydlynwyr Tîm. Hefyd, mae'r tîm 14+ oed yn derbyn cymorth gan Gynghorwyr Personol, sy'n gweithio gyda phobl ifanc 16+ oed, ac mae cymorth y Cydlynydd Ansawdd Data'n helpu'r tîm i gadw at eu hamserlenni statudol.
Mae'r tîm yn un sefydledig a chefnogol iawn, gyda sesiynau 'dal i fyny' rhithiol dyddiol a chyfarfodydd wyneb yn wyneb. Cynhelir sesiynau goruchwylio misol, a sesiynau goruchwylio anffurfiol yn y canol.
Y Timau Maethu
Mae'r gwasanaeth maethu ym Mhowys yn wasanaeth ledled y sir sy'n cwmpasu pob agwedd ar waith Maethu, o ymholiadau cychwynnol i oruchwyliaeth a chefnogaeth ar gyfer Gofalwyr Maeth Prif Ffrwd cymeradwy ynghyd ag asesu a chefnogi Unigolion Cysylltiedig sy'n Maethu. Yn ogystal â maethu, mae'r gwaith hefyd yn cynnwys cefnogi plant sy'n byw gyda theuluoedd o dan Orchmynion Gwarchodaeth Arbennig.
Mae'r gwasanaeth Maethu yn cynnwys dau dîm, Tîm Maethu Prif Ffrwd a'r Tîm Unigolion Cysylltiedig. Mae'r timau'n cynnwys Rheolwyr Tîm, Prif Weithwyr Cymdeithasol Goruchwylio, Uwch Weithwyr Cymdeithasol Goruchwylio, Gweithwyr Cymdeithasol Goruchwylio a Gweithwyr Cymorth. Mae'r timau hefyd yn darparu lleoliadau ar gyfer Myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol. Mae 4 gweinyddydd wedi'u lleoli yn y tîm, sy'n cynnwys dau Gydlynydd Panel Maethu a dau Weinyddwr. Fe'n cefnogir hefyd gan Gydlynydd Ansawdd Data sy'n ein helpu i gadw ar y trywydd iawn gyda'n cyfrifoldebau statudol. Cefnogir y tîm gan Swyddogion Recriwtio a Chadw dynodedig.
Mae gan y Gwasanaeth Maethu weithlu sefydlog sy'n cynnwys aelodau profiadol o staff, sydd â gwybodaeth a sgiliau helaeth o fewn y sector maethu. Mae'r rhan fwyaf o Weithwyr Cymdeithasol yn y tîm yn meddu ar flynyddoedd lawer o brofiad o weithio o fewn y sector Gwasanaethau Plant cyn arbenigo mewn maethu. Mae'r ddau dîm yn gefnogol iawn i'w gilydd, mae sesiynau dal i fyny rhithwir dyddiol, a sesiynau briffio tîm wythnosol wyneb yn wyneb. Yn ogystal, mae cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb misol sy'n digwydd yng nghanol y sir, mae'r gwasanaeth cyfan yn cyfarfod bob chwarter.
Cynhelir sesiynau goruchwylio staff bob mis, ac mae sesiynau goruchwylio anffurfiol yn digwydd yn rheolaidd rhwng cyfarfodydd. Cynhelir cyfarfodydd ymarfer gwaith cymdeithasol yn rheolaidd, gan ganiatáu amser ar gyfer myfyrio grŵp beirniadol, gan drafod ystod o bynciau o adolygiadau achosion difrifol, adborth o hyfforddiant i bolisïau a gweithdrefnau. Caiff y sesiynau hyn eu hwyluso gan y Prif Weithiwr Cymdeithasol gyda phynciau i'w trafod y cytunwyd arnynt gan weithwyr cymdeithasol.
Mabwysiadu
Mae'r Tîm Mabwysiadu ym Mhowys yn rhan o Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru ac yn gweithio ochr yn ochr â'n cydweithwyr yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gar.
Rydym yn dîm traws-sirol sy'n gweithio ym mhob maes yn ymwneud â mabwysiadu, gan gynnwys:
- Asesu a chefnogi darpar-rieni mabwysiadol.
- Dod o hyd i deuluoedd i blant sydd â chynllun gofal mabwysiadu.
- Eu cefnogi drwy eu siwrne fabwysiadu ac yna yn eu cartrefi mabwysiadol.
- Cefnogi rhieni genedigol drwy siwrne fabwysiadu eu plant.
- Hyfforddi a chyfeirio teuluoedd mabwysiadol at wasanaethau eraill.
- Cymorth ôl-fabwysiadu i deuluoedd sydd angen mwy o gymorth ar ôl i blentyn gael ei fabwysiadu.
- Gwasanaeth 'blwch llythyrau', gyda gweithiwr dynodedig, i gynnal cyswllt rhwng plant mabwysiedig â'u teuluoedd genedigol.
- Helpu oedolion mabwysiedig i gael mynediad at eu cofnodion geni.
Mae gwaith ymarfer mabwysiadu'n amrywiol, ystyrlon ac arbenigol. Ein pwrpas yw cefnogi a hyrwyddo canlyniadau positif i blant mabwysiedig a'u teuluoedd.
Mae strwythur y tîm yn cynnwys Rheolwr Tîm, Prif Weithiwr Cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol cymwysedig, i gyd wedi eu cefnogi gan Weinyddwr Mabwysiadu. Mae myfyrwyr Gwaith Cymdeithasol hefyd yn ymuno â'r tîm yn rheolaidd.