Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Staff cymorth ar gael i'n Gweithwyr Cymdeithasol

Support staff available

Cymorth Busnes a Gweinyddol a Chydlynwyr Tîm

Mae gan ein timau gweithredol a'n gweithwyr cymdeithasol i gyd fynediad at ystod o staff cymorth i'w helpu yn eu gwaith. Mae hyn yn cynnwys cydlynwyr tîm dynodedig ym mhob tîm, 'pwll' o weinyddwyr, a chydlynwyr ansawdd data. Mae'r staff cymorth hyn yn fedrus, parod iawn eu cymorth ac yn gwneud popeth posib i gefnogi a helpu ein timau gweithredol i ymdopi â'u llwythi gwaith a threulio mwy o amser yn gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Gwasanaethau Ymyrryd ac Atal

Mae gan ein timau hefyd fynediad at wasanaethau ymyrryd ac atal sy'n cynnwys Ar Ffiniau Gofal, lleoliadau sefydlog, a'r Tîm Cymorth Teulu Integredig (IFST).

Gellir defnyddio gwasanaethau'r timau hyn drwy ymgynghori ag arweinwyr tîm, fel nad oes angen llenwi mwy o ffurflenni cyfeirio. Mae'r gwasanaethau'n gweithio ar sail cryfderau i hyrwyddo'r ethos y gall teuluoedd fod yn llwyddiannus a chyrraedd eu hamcanion. Mae'r tîm IFST wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol mewn cyfweld ysgogiadol a theori newid.

Mae ymyriadau'n cael eu darparu gan staff wedi eu hyfforddi mewn adferiad o drawma ac yn derbyn goruchwyliaeth ac arweiniad o safon uchel i sicrhau yr ystyriwyd holl agweddau'r teulu er mwyn cyflawni'r canlyniadau iawn.

Mae gan y tîm IFST dîm bychan o weithwyr sy'n gweithio'n ddwys â theuluoedd ochr yn ochr â'r staff Gwaith Cymdeithasol. Mae gennym hefyd nyrs iechyd meddwl ac arbenigwr camddefnyddio sylweddau.

Mae gan Bowys swyddog cyfranogi sy'n sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed ar bob lefel. Ar adegau, mae'r swyddog cyfranogi wedi gweithio 1:1 â phlant sy'n teimlo eu bod yn cael trafferth cael y gweithwyr proffesiynol sy'n eu cefnogi i wrando arnynt.

Mae amser teulu'n eistedd y tu allan i'r timau gofal plant ac yn cynorthwyo'r holl wasanaethau i ddarparu gwasanaeth o safon. Drwy wneud hyn mae'r plant yn gallu cadw mewn cysylltiad â'u teuluoedd i bwrpas asesu a chynnal perthynas.

Cartrefi Preswyl Powys

Mae gan Bowys bedair uned breswyl i blant gyda phroblemau ymddygiad, yn ogystal ag un sy'n gweithio gyda phlant sydd ag anableddau corfforol. Mae'r cartrefi'n cynnwys plant o Bowys sy'n derbyn gofal drwy ein cynllun Agosach at Gartref ac mae'r gwaith ar y cyd â'r unedau a'r timau gwaith cymdeithasol yn sicrhau bod cynlluniau gofal plant yn berthnasol ac yn derbyn cymorth da i sicrhau'r gofal gorau i'n plant mewn gofal.

Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid

Mae'r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio gyda phobl ifanc a fu'n rhan o ymddwyn yn droseddol. Mae'r tîm yn cynnwys staff o'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Addysg, Heddlu, Prawf ac Iechyd i sicrhau dull amlasiantaethol di-dor o weithio. Mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc ar lefel statudol ac ataliol ac yn gweithio gyda dioddefwyr fel rhan o ddull cyfiawnder adferol. Mae'r gwasanaeth yn edrych ar bob sefyllfa i benderfynu ar yr ymyriad gorau i'r person ifanc.

Diogelu a Sicrhau Ansawdd:

Mae'r maes gwasanaeth hwn yn cynnwys ein cadeiryddion Amddiffyn Plant / Swyddogion Adolygu Annibynnol, y tîm Ecsbloetio Plant, a'r tîm Datblygu Ymarfer (Gweithlu).

Y Tîm Ecsbloetio Plant

Mae gan y Tîm Ecsbloetio Plant un Rheolwr Tîm a phedwar Gweithiwr Ymyrryd Ecsbloetio Plant sy'n gallu gweithio'n uniongyrchol â phlant a theuluoedd a / neu ofalwyr.

Mae'r tîm yn cefnogi plant a rhieni'n uniongyrchol drwy weithio ar sail dull deall trawma i helpu plant i adfer o gael eu hecsbloetio. Maen nhw hefyd yn gallu cefnogi rhwydwaith proffesiynol y plentyn i godi ymwybyddiaeth o ecsbloetio gan roi cyngor ar gynllunio diogelwch plant a pha mor bwysig yw defnyddio'r iaith iawn wrth weithio gyda phlant a brofodd y math yma o gam-drin. Mae cyfarfodydd strategol i drafod ecsbloetio plant yn cael eu cadeirio gan y Rheolwr Ecsbloetio Plant i sicrhau cysondeb.

Mae'r tîm Ecsbloetio Plant yn hwyluso sesiynau 'Cymuned Ymarfer' chwarterol sy'n cynorthwyo ymarferwyr Gwasanaethau Plant, asiantaethau partner a chydweithwyr trydydd sector i ddod at ei gilydd i ystyried yr ymarfer gorau o ran atal, adnabod, tarfu ar, ac adfer o ecsbloetio, yn ôl y dystiolaeth. Mae'r sesiynau wedi gwreiddio'n dda yng nghalendr hyfforddiant Powys ac wedi derbyn adborth positif yn gyson.  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu