Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ebost Fy Nghyfrif Powys

Ein Meysydd Gwasanaeth

Service areas

CYMORTH (ein drws ffrynt)

CYMORTH yw'r gwasanaeth drws ffrynt ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion gan roi gwybodaeth, cyngor a chymorth i bobl yn gyffredinol a gweithwyr proffesiynol.

Mae ein Swyddogion Cyswllt yn cael sgyrsiau "beth sy'n bwysig" ag unigolion i ddeall pam eu bod yn ffonio a pha ganlyniadau y maen nhw'n gobeithio eu cael. Maen nhw'n rhoi gwybodaeth a chyngor neu'n derbyn manylion cyfeirio manwl i'w pasio ymlaen i'r tîm priodol ar gyfer gweithredu ymhellach. Mae'r Swyddogion Cyswllt bob amser yn ceisio ateb yr ymholiad drwy'r cyswllt cyntaf lle bo'n bosib.

Diogelu

Ein nod yw diogelu unigolion drwy eu cadw'n ddiogel rhag niwed, cam-drin neu esgeulustod.

Mae gennym dîm diogelu arbenigol sy'n gweithio ar bob agwedd ar bryderon diogelu oedolion, mewn cydweithrediad â phartneriaid mewnol ac allanol.

Yr Uned Dirprwyon / Penodeion

Mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion, cynigiwn gymorth a gweithredwn ar ran unigolion na fedrant ofalu am eu materion Eiddo ac Ariannol eu hunain os ystyrir nad oes ganddynt alluedd meddyliol i wneud hynny. Cynigir y gwasanaeth hwn dim ond i rai sy'n derbyn gwasanaeth statudol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion.

Os yw unigolyn yn derbyn budd-daliadau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), gall y DWP awdurdodi rhywun i weithredu ar eu rhan - 'Penodai' y gelwir y person hwn (person a benodir).

Mae Trefniant Penodai'n awdurdodi'r Penodai i reoli budd-daliadau DWP yn unig.  Mewn achosion lle y mae angen cysylltu â sefydliadau ariannol eraill, gellir gwneud cais i'r Llys Gwarchod i benodi Dirprwy a Benodir gan y Llys ar gyfer Materion Eiddo ac Ariannol.

Gweithwyr Cymdeithasol ac Ymarferwyr Gofal Cymdeithasol

Mae gennym nifer o swyddi gweithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal cymdeithasol ar draws y gwasanaethau anableddau, pobl hŷn ac iechyd meddwl.

Gweithiwn ag unigolion a'u teuluoedd / gofalwyr drwy roi ffocws ar ganlyniadau a chryfderau, sy'n golygu ein bod yn adnabod eu cryfderau a'u rhwydweithiau cymorth, yn ogystal ag unrhyw anghenion gofal.

Ein nod yw cefnogi pobl i fyw eu bywydau mor annibynnol a diogel â phosib fel eu bod yn cyflawni'r canlyniadau bywyd sy'n bwysig iddynt.

Gweithwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy

Mae ein gweithwyr AMHP yn rhan o'n Timau Iechyd Meddwl Cymunedol ac wedi eu cyd-leoli â chydweithwyr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Maen nhw'n gweithio ag unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl neu'n profi'r problemau hyn.

Mae'n ofynnol i bawb yn y swyddi hyn fod wedi cymhwyso fel AMHP a dilyn proses reolaidd o ail-achredu. Mae ein gweithwyr AMHP yn gweithio drwy rota i gwrdd â gofynion statudol y Cyngor o ran Asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Therapyddion Galwedigaethol

Mae ein timau therapi galwedigaethol yn cefnogi unigolion i aros mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain.

Cefnogir unigolion drwy roi cyngor a chymorth ar ddefnyddio gwahanol dechnegau i barhau i fyw'n annibynnol. Gall y tîm hefyd drefnu i ddarparu cyfarpar neu wneud addasiadau er mwyn gwneud bywyd pob dydd yn haws a mwy diogel i unigolion.

Mae'r tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio mewn partneriaeth â'n timau gweithredol, comisiynu a darparwyr, a hefyd gyda chydweithwyr tai ac iechyd a'r sectorau preifat / gwirfoddol.

Gwasanaethau Darparwyr - Ail-alluogi a Gofal Cartref

Mae Powys yn sir wledig iawn a law yn llaw â Llywodraeth Cymru rydym yn awyddus i bob oedolyn gael y dewis i aros yn ddiogel yn eu cartref eu hunain a byw'n annibynnol.

Mae ein timau Ail-alluogi'n gweithio ag unigolion ar sail tymor byr i'w cefnogi i gadw neu adennill eu hannibyniaeth ar adegau o newid a phontio neu drosglwyddo; mae hyn yn hybu iechyd, lles, annibyniaeth, urddas a chynhwysiant cymdeithasol.

Mae ein gofalwyr cartref yn gweithio allan o gwmpas y gymuned yng nghartrefi unigolion, lle yr aseswyd bod angen gofal.

Cymorth Cartref

Mae ein Timau Cymorth Cartref yn darparu gwasanaeth atal a chymorth cynnar i unigolion (50+ oed) i gynorthwyo a darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol sydd ei angen arnynt yn eu bywyd dydd i ddydd i fyw yn eu cartref eu hunain yn hyderus, annibynnol, diogel ac mewn iechyd da.

Drwy gynorthwyo a darparu'r cymorth iawn, gall unigolion dderbyn y gefnogaeth a'r cymorth arbenigol hwn pan fydd ei angen arnynt, a thrwy wneud hynny rydym yn:

  • Darparu cymorth hyblyg person-ganolog sy'n ymateb i anghenion yr unigolyn.
  • Helpu unigolion i helpu eu hunain.
  • Darparu cymorth pan fo'i angen ar bobl.
  • Darparu cymorth arbenigol.

Nid yw derbyn y cymorth yn dibynnu ar brawf modd na meini prawf derbyn / eithrio. Unwaith y bydd unigolyn yn aelod o'r tîm Cymorth Cartref, maen nhw'n gallu manteisio neu beidio ar y gwasanaeth yn ôl yr angen heb orfod cael eu hail-gyfeirio.

Cyfleoedd Dydd

Mewn Gofal Cymdeithasol Oedolion, mae nifer o swyddi i gynorthwyo unigolion sy'n mynychu canolfannau dydd neu wasanaethau dydd.

Mae ein gwasanaethau dydd yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn lle diogel a derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt - er mwyn dysgu sgiliau newydd ac yn aml iawn i ddal i fyny â hen ffrindiau. Pan fydd unigolion yn mynychu gwasanaethau dydd, mae'n rhoi seibiant i'w gofalwr hefyd.

Cysylltu Bywydau

Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau'n agor eu cartref i gefnogi pobl eraill, fel pobl ifanc sydd ar fin dod yn oedolion neu unigolion sy'n byw ag anabledd gydol oes.

Ein nod yw darparu'r cymorth sydd ei angen ar unigolion i fyw'n ddiogel ac mor annibynnol â phosib gyda chefnogaeth rhwydweithiau teuluol a chymunedol. Mae Cysylltu Bywydau'n seiliedig ar rannu diddordebau a ffyrdd o fyw ac yn opsiwn yn lle llety cymorth neu ofal preswyl.

Y Tîm Dyletswydd Brys

Mae ein Tîm Dyletswydd Brys yn delio â sefyllfaoedd brys tu allan i oriau na ellir eu gadael yn ddiogel tan y diwrnod gwaith nesaf.

Mae ein tîm yn gweithio ar sail rota gan ddarparu gwasanaeth cyffredinol i'r sir gyfan ar sail rota; mae'r tîm yn gweithio ar draws y Gwasanaethau Oedolion a Phlant.

Y Tîm Gweinyddol

Mae ein Goruchwylwyr a'n Gweinyddwyr yn darparu cymorth effeithiol ac effeithlon i gefnogi'r timau Gofal Cymdeithasol Oedolion er mwyn eu rhyddhau i ganolbwyntio ar helpu unigolion i gyflawni'r pethau sy'n bwysig iddynt.

Mae'r gwaith yn amrywiol a'r Gweinyddwyr yn arwain ar dasgau gweinyddol pur fel cymryd cofnodion i gefnogi'r agenda ddiogelu neu'n prosesu trafodion ariannol.

Strwythurau'r Timau

Am fwy o fanylion am strwythurau'r timau, e-bostiwch recruitment@powys.gov.uk 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu