Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau a ofynnir yn aml - Tîm Cyllido

Croeso i'n Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

 Yma, byddwch yn dod o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin i'ch helpu i ddeall y broses a dod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym. Os ydych chi'n chwilio am eglurhad, ry'ch chi wedi dod i'r lle iawn!

1. Beth yw Tîm Cyllido Powys?

Mae Tîm Cyllido Powys yn helpu unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau ym Mhowys drwy eu cyfeirio at gyfleoedd cyllido perthnasol drwy ein teclyn Chwiliwr Cyllid.

 

2. Pwy all wneud cais am gyfleoedd cyllido?

Mae unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau sydd wedi'u lleoli ym Mhowys yn gymwys i wneud cais am gyfleoedd cyllido, yn amodol ar feini prawf y rhaglen cyllido benodol.

 

3. Sut allaf ddod o hyd i'r cyfleoedd cyllido sydd ar gael?

 Gallwch ddefnyddio ein teclyn chwiliwr cyllid i ddarganfod ystod eang o gyfleoedd cyllido.  Os oes angen cymorth arnoch gyda cheisiadau, gall sefydliadau fel PAVO ddarparu cymorth manwl.

 

4. Pa fathau o brosiectau sy'n gymwys i gael cyllid?

Mae cyllid ar gael ar gyfer ystod eang o brosiectau, gan gynnwys datblygu cymunedol, tyfu busnesau, rhaglenni addysgol a mentrau amgylcheddol. Mae meini prawf cymhwysedd yn amrywio yn ôl y rhaglen gyllido.

 

5. Pwy all helpu i lenwi ffurflenni cais neu sefydlu cyfansoddiad grŵp?

Mae sefydliadau fel Pavo yn darparu cymorth penodol ar gyfer llenwi ffurflenni cais a sefydlu cyfansoddiadau grŵp. 

6. Sut beth yw'r broses ymgeisio?

Mae'r broses ymgeisio yn amrywio yn ôl y rhaglen gyllido. Yn gyffredinol, mae'n cynnwys cyflwyno cynnig manwl i'r corff cyllido allanol yn amlinellu eich prosiect, ei amcanion, a sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.

 

7. A oes terfynau amser ar gyfer ceisiadau am gyllid?

Oes, mae terfynau amser yn cael eu gosod gan bob rhaglen gyllido. Rydym yn argymell gwirio'r chwiliwr cyllid yn rheolaidd i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd a therfynau amser.

 

8. A allaf wneud cais am gyfleoedd cyllido lluosog?

Gallwch wneud cais am nifer o gyfleoedd cyllido cyn belled â'ch bod chi'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob rhaglen.

 

9. Pa mor hir fydd hi'n cymryd i dderbyn cyllid?

 Mae'r amserlen yn amrywio yn ôl y rhaglen gyllido a gall amrywio o ychydig wythnosau i sawl mis ar ôl cyflwyno a chymeradwyo.

 

10. Ydych chi'n rhoi adborth os yw fy nghais yn aflwyddiannus?

Na, gan fod ceisiadau'n cael eu hasesu gan raglenni cyllido allanol, darperir adborth yn uniongyrchol ganddynt hwy.

 

11. Ydych chi'n darparu gweithdai neu hyfforddiant ar ysgrifennu ceisiadau am gyllid?

Na, ond mae sefydliadau fel Pavo yn cynnig gweithdai a sesiynau hyfforddi i helpu unigolion a sefydliadau i wella eu sgiliau ymgeisio.  

12. A allaf gael help os nad yw fy mhrosiect yn ffitio i unrhyw gategorïau safonol?

Os yw eich prosiect yn ymddangos yn anarferol neu nad yw'n ffitio o fewn categorïau safonol, rydym yn eich annog i gysylltu â ni drwy ein ffurflen we i weld pa opsiynau fyddai'n bosibl i chi. 

 

13. A oes cyfleoedd cyllido ar gyfer egin fusnesau neu fusnesau newydd?

Oes, mae rhai rhaglenni cyllido wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer egin fusnesau a busnesau newydd. Edrychwch ar y Chwiliwr Cyllid am gyfleoedd perthnasol.

 

14. A oes cyllid ar gyfer prosiectau amgylcheddol neu gynaliadwyedd?

Oes, mae cyfleoedd i brosiectau sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, cadwraeth amgylcheddol ac ynni adnewyddadwy. Defnyddiwch y Chwiliwr Cyllid i archwilio'r opsiynau hyn.

 

15. A yw prosiectau diwylliannol a chelfyddydol yn gymwys i gael cyllid?

Ydyn, mae llawer o raglenni cyllido yn cefnogi mentrau diwylliannol a chelfyddydol. Gwiriwch y Chwiliwr Cyllid am ragor o fanylion.

 

16. A oes angen i mi gael sefydliad cofrestredig i wneud cais?

Mae rhai rhaglenni cyllido yn gofyn i ymgeiswyr fod yn sefydliadau cofrestredig, tra bod eraill yn derbyn unigolion neu grwpiau anffurfiol. Gwiriwch y meini prawf cymhwyster ar y Chwiliwr Cyllid ar gyfer pob rhaglen.

 

17. A allaf gydweithio â sefydliadau eraill i wneud cais am gyllid?

Gallwch, yn aml anogir ceisiadau ar y cyd, yn enwedig ar gyfer prosiectau sy'n darparu manteision cymunedol eang.

 

18. A oes cyfleoedd cyllido ar gyfer pobl ifanc neu fentrau sy'n cael eu harwain gan ieuenctid?

Oes, mae rhai rhaglenni cyllido yn cefnogi mentrau dan arweiniad pobl ifanc yn benodol a phrosiectau sydd o fudd i bobl ifanc.  Edrychwch ar y Chwiliwr Cyllid am fanylion.

 

19. Sut y gallaf gael y cyfleoedd cyllido newydd ddiweddaraf?

Defnyddiwch y chwiliwr cyllid yn aml i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cyfleoedd a'r terfynau amser sydd ar gael.

 

20. Beth os ydwyf yn ymwybodol o gronfa sydd heb gael ei rhestru ar eich safle?

Os ydych chi'n ymwybodol o gronfa nad yw wedi'i rhestru ar hyn o bryd, byddem yn falch iawn o glywed amdani! Rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod am gronfa nad yw wedi'i chynnwys eto Rhowch wybod i ni os ydych yn gwybod am gronfa nad yw wedi'i chynnwys eto

 

Oes gennych gwestiwn nad ydym wedi'i ateb? Oes gennych gwestiwn nad ydym wedi'i ateb?  

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu