Ail-enwi Eiddo Presennol / Ychwanegu enw at Eiddo â Rhif

I newid enw eich eiddo, cliciwch ar y ddolen isod neu fel arall lawrlwythwch y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i buildingcontrol@powys.gov.uk.
Gallwch ychwanegu enw at eich eiddo, fodd bynnag, os yw eisoes wedi'i rifo bydd hwn bob amser yn cael ei gadw fel rhan o'r cyfeiriad a bydd enw'r eiddo yn ychwanegol at y rhif.
Mae hyn hefyd yn berthnasol i eiddo masnachol a diwydiannol.
Mae'r rheolau ar gyfer enwi eiddo unigol yn llym; mae enw unigryw yn hanfodol i sicrhau y gellir lleoli eiddo yn gyflym ac yn hawdd. Rydym yn derbyn nifer o gwynion gan bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn ymwneud â nwyddau'n mynd ar gyfeiliorn ac o bryd i'w gilydd,
Pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud wrth ddewis enwau eiddo
Gwnewch:
- Dewiswch enw sydd mor wreiddiol â phosibl.
- Cofiwch fod enwau sy'n ymwneud â choed, llwyni ac ati yn tueddu i fod yn hynod boblogaidd, e.e. Rhosyn, Perllan, Derwen, ac ati.
- Gwiriwch eich enw ar Chwiliwr Cod Post y Post Brenhinol am wreiddioldeb Y Post Brenhinol Dod o hyd i God Post (yn agor mewn tab newydd).
- Yn ddelfrydol, rhowch o leiaf ddau awgrym ar gyfer enwi pob eiddo newydd.
Peidiwch â:
- Dewis enw sy'n cael ei ddefnyddio gan unrhyw eiddo arall neu sy'n swnio'n rhy debyg i eiddo arall yn yr ardal, e.e. LD3 7.., LD3 8.., LD3 9...
- Dewis dau awgrym sydd ddim ond yn amrywiadau ar thema, e.e. Bwthyn Rhosyn, Llety Rhosyn; pa bynnag ôl-ddodiad neu ragddodiad a ddewisir, ni fydd rhosyn yn cael ei gymeradwyo.
- Dewis enw sy'n sarhaus neu'n agored i'w gamddehongli.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau