Telerau ac Amodau Enwi a Rhifo Strydoedd

- Bydd y Cyngor yn asesu pob cais am enwi a rhifo strydoedd a newidiadau i enwau eiddo yn erbyn ei nodiadau canllaw presennol ar enwi a rhifo strydoedd
- Cyn cyflwyno cais i enwi stryd newydd neu newid enw eiddo dylai'r ymgeisydd ymgyfarwyddo â'r canllawiau ar ein gwefan. Enwi a Rhifo Strydoedd Nodiadau Canllaw (PDF, 440 KB)
- Dim ond ar ôl derbyn taliad llawn ymlaen llaw y caiff ceisiadau eu prosesu.
Unwaith y bydd cais yn cael ei gyflwyno ni roddir ad-daliad o gais yn llawn nac yn rhannol. Mae hyn hefyd yn cynnwys pan fydd ymgeisydd yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen.
Yn unol â safonau'r Gymraeg a nodiadau canllaw'r Comisiynwyr, rhoddir blaenoriaeth bob amser i gonfensiynau enwi Cymraeg, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, y cyd-destun hanesyddol lleol.
Cynghorir ymgeiswyr na ellir gwarantu cymeradwyo enwau eiddo Saesneg.
Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i benderfynu a yw'n dderbyniol enwi strydoedd newydd yn Gymraeg a Saesneg yn ddeuol.
- Ar brydiau mae angen i'r Cyngor ymgynghori â chynghorau cymuned lleol ar enwau arfaethedig. Er bod y Cyngor yn anelu at wneud penderfyniad yn gyflym mae'n aml yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae cynghorau cymuned yn ymateb i'w penderfyniad. Nid yw Cyngor Sir Powys yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am oedi o ganlyniad i ymgynghori â chynghorau cymuned.
Nid yw Cyngor Sir Powys yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am benderfyniadau na barn cynghorau cymuned sy'n darllen enwi strydoedd.
Mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i ddiystyru unrhyw enwau a gyflwynir gan ymgeiswyr neu gynghorau cymuned.
Mae Cyngor Sir Powys yn mynnu bod datblygwyr sy'n defnyddio enwau marchnata ar gyfer datblygiadau newydd yn ei gwneud yn glir i feddianwyr nad yr enw marchnata yw'r enw cyfeiriad swyddogol ac na ddylid ei ddefnyddio fel cyfeiriad post swyddogol.
- I gael rhagor o wybodaeth, dylai ymgeiswyr gyfeirio at delerau ac amodau ehangach Cyngor Sir Powys Telerau ac Amodaua hefyd hysbysiad preifatrwydd y Cyngor Diogelu Data a Phreifatrwydd