Cwestiynau Cyffredin am y system archebu lle
O 1 Ebrill 2025, os ydych am fynd â'ch gwastraff cartref ac ailgylchu i un o'n pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi,bydd angen i chi drefnu amser cyn eich ymweliad.
Pam ein bod ni'n cyflwyno system archebu lle?
Mae'r system archebu yn cael ei chyflwyno i wella profiad y defnyddiwr drwy leihau ciwiau a rhoi mwy o amser i staff gynorthwyo preswylwyr. Ei nod hefyd yw lleihau defnydd anghyfreithlonl o'r canolfannau ailgylchu gan weithredwyr masnachol a defnyddwyr o'r tu allan i'r sir.
Pa fanteision sydd i breswylwyr?
Bydd y system cadw lle yn lleihau tagfeydd ac amseroedd ciwio y tu allan i'r safleoedd yn ogystal â gwella gweithrediad y cyfleusterau. Bydd eich ymweliad yn haws ac yn cymryd llai o amser. Bydd gan staff fwy o amser hefyd i helpu ymwelwyr a allai fod angen cyngor a/neu gymorth ar y safle.
A yw cynghorau eraill yn defnyddio systemau cadw lle?
Mae llawer o gynghorau eraill eisoes yn defnyddio systemau archebu yn eu canolfannau ailgylchu. O'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, mae gan 12 arall ryw fath o system archebu eisoes ar waith. Mae ein dau awdurdod cyfagos yn Lloegr, Swydd Amwythig a Swydd Henffordd, hefyd yn gweithredu systemau archebu.
Lle mae cynghorau wedi gofyn i'w trigolion a ydynt yn hapus â'r system archebu, mae'r mwyafrif llethol (dros 80% yng Nghonwy er enghraifft) am iddynt barhau i weithredu.
Pryd fydd y system archebu yn dechrau?
Bydd y system cadw lle drwy archebu yn cael ei gweithredu o 1 Ebrill 2025. O'r adeg hon bydd angen i unrhyw un sydd eisiau defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi archebu slot cyn ymweld. Byddwch yn gallu archebu eich slot tro cyntaf o 25 Mawrth 2025.
Pa mor bell ymlaen llaw y gallaf archebu slot amser?
Byddwch yn gallu archebu amser hyd at saith diwrnod cyn eich ymweliad. Mewn llawer o achosion, byddwch yn gallu archebu lle ar yr un diwrnod. Gellir gwneud yr archebion cyntaf o 25 Mawrth 2025.
A fydd tâl am archebu slot amser?
Na, mae'r canolfannau ailgylchu yn parhau yn parhau am ddim i drigolion Powys gael gwared ar eu gwastraff cartref a'u hailgylchu. Fodd bynnag, efallai y codir tâl am waredu mathau penodol o wastraff, megis DIY a gwastraff adeiladwyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hynny yma.
Sut ydw i'n gwneud archeb?
Byddwch yn gallu archebu amser yn gyflym ac yn hawdd ar-lein: www.powys.gov.uk/HRC
Dilynwch y cyfarwyddiadau ar-lein i archebu amser yn y Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi o'ch dewis. Bydd angen i chi roi eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif cofrestru'r cerbyd y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich ymweliad.
Gellir archebu amser dros y ffôn hefyd drwy ffonio: 01597 827465
Does gen i ddim mynediad i'r we - a oes modd i mi drefnu apwyntiad o hyd?
Gallwch, gallwch archebu slot amser dros y ffôn drwy ffonio: 01597 827465.
Mae'r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am - 5pm (4:30pm ddydd Gwener), ond gall ffrind neu berthynas gadw lle ar-lein i chi gyda'ch manylion.
Pa mor hir yw'r amseroedd?
Bydd pob slot amser yn para am 10 munud. Dylai hyn fod yn ddigon o amser i ailgylchu eich holl wastraff yn gywir. I wneud y gorau o'ch ymweliad, cofiwch ddidoli a gwahanu eich holl wastraff ac ailgylchu cyn i chi gyrraedd y safle. Ni fydd gwastraff cymysg (gwastraff y gellir ei ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn cael ei gymysgu gyda'i gilydd) yn cael ei dderbyn.
Bydd hyd y cyfnodau amser yn cael eu hadolygu a'u haddasu os oes angen i wella profiad y cwsmer.
A fyddaf yn gallu ymweld â'r siopau ailddefnyddio yn ystod fy amser?
Byddwch, os oes siop ailddefnyddio yn gweithredu yn yr Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yr ydych yn ymweld â hi, byddwch yn gallu ymweld â hi tra byddwch ar y safle.
Nid wyf ond eisiau ymweld â'r siop ailddefnyddio. A oes angen i mi archebu amser o hyd?
Nac oes, i ddechrau, ni fydd angen i chi drefnu amser i ymweld â siop ailddefnyddio yn un o'r Canolfannau. Fodd bynnag, byddwn yn parhau i adolygu hyn ac os bydd gormod o dagfeydd ar y safleoedd, efallai y bydd yn rhaid i ni wneud newidiadau.
A oes terfyn i'r nifer o weithiau y gallaf ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?
Nac oes, oni bai eich bod yn ddefnyddiwr Trwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar sy'n gyfyngedig i 12 ymweliad y flwyddyn mewn cerbyd a ganiateir.
A oes angen i mi archebu bob tro y byddaf yn ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?
Oes, bydd pob ymweliad â'r Canolfannau hyn yn gofyn am amser wedi'i drefnu ymlaen llaw i sicrhau bod popeth yn gweithredu'n esmwyth ac i osgoi tagfeydd ar y safleoedd
Alla i drefnu apwyntiad ar gyfer perthynas neu ffrind?
Gallwch, ond rhaid i chi ddefnyddio eu cyfeiriad a rhif cofrestru'r cerbyd a fydd yn cael ei ddefnyddio wrth ymweld â'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
Nid wyf yn breswylydd ym Mhowys ond mae angen clirio cartref/eiddo rhywun sy'n byw ym Mhowys (e.e. perthynas sydd wedi marw). Alla i wneud hyn?
Nid yw ein canolfannau ailgylchu yn addas yn y senarios hyn, byddai llogi sgip neu gwmni clirio tŷ yn fwy priodol.
Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn cyrraedd y ganolfan ailgylchu?
Bydd staff yn gwirio eich archeb gan ddefnyddio eich rhif cofrestru car cyn caniatáu mynediad i'r Ganolfan Ailgylchu.
Beth sy'n digwydd os byddaf yn cyrraedd heb gadw lle?
Bydd angen i chi drefnu amser i ymweld ag unrhyw un o'n pum Canolfan Ailgylchu a byddwn yn gwrthod mynediad i chi os na fyddwch wedi gwneud hynny. Gellir trefnu amseroedd cadw lle yn gyflym ar-lein, os oes amser ar gael, efallai y byddwch yn gallu archebu slot munud olaf drwy ymweld â: www.powys.gov.uk/HRC
Beth sy'n digwydd os byddaf yn cyrraedd yn hwyr ar gyfer fy slot amser?
Gan ddibynnu pa mor hwyr ydych chi a pha mor brysur yw'r safle, bydd staff yn ceisio addasu pethau i'ch helpu lle bo hynny'n bosibl. Fodd bynnag, os yw'r safle'n brysur efallai y bydd yn rhaid i chi ail-archebu a dychwelyd ar adeg arall.
Beth os bydd angen i mi ganslo fy archeb?
Deallwn fod cynlluniau'n newid. Os oes angen i chi ganslo neu newid eich archeb amser, dilynwch y ddolen ar eich e-bost cadarnhau. Gallwch hefyd ffonio 01597 827465 i ganslo neu newid eich archeb.
A fydd oriau agor y canolfannau ailgylchu yn newid?
Na, bydd yr oriau agor a'r diwrnodau gweithredu yn aros yr un fath, gallwch ddod o hyd i'r rhain yma: www.powys.gov.uk/HRC
Alla i gerdded neu seiclo i'r ganolfan ailgylchu?
Gallwch, ond mae'n dal yn ofynnol i chi drefnu amser i ymweld a rhaid i chi gadarnhau a ydych yn teithio ar feic neu ar droed.
A allaf gadw lle ar slot amser a defnyddio'r ganolfan ailgylchu os oes gennyf fan neu ôl-gerbyd?
Gallwch, os oes gennych drwydded Cerbyd Masnachol neu Drelar (CVT). Gallwch wneud cais am drwydded CVT ar-lein.
A oes angen trwydded CVT arnaf o hyd?
Oes. Os ydych yn defnyddio cerbyd masnachol neu drelar ar gyfer eich ymweliad, bydd angen trwydded CVT arnoch o hyd.
Mae gennyf drwydded CVT a oes angen i mi gadw lle o hyd?
Oes, mae angen archebu lle ymlaen llaw ar bob ymweliad â'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
A allaf ddefnyddio canolfannau ailgylchu mewn siroedd eraill?
Na, dim ond yn y sir yr ydych yn byw y dylech ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
Sut ydw i'n cael gwared ar wastraff masnach neu fasnachol neu ailgylchu?
Ni ellir mynd â gwastraff masnachol nac ailgylchu i unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch gyda gwastraff masnachol, ewch i: https://cy.powys.gov.uk/ailgylchumasnachol
A yw'r system archebu wedi'i chyflwyno gan y cwmni newydd sy'n rhedeg y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?
Na, gwnaed y penderfyniad i gyflwyno system archebu gan y cyngor yn ôl ym mis Chwefror 2024. Mae ei weithredu'n syrthio'n unol â dechrau'r contractau newydd.
O 1 Ebrill 2025, bydd Bryson Recycling yn rheoli ac yn gweithredu Canolfannau Ailgylchu Cartrefi y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu a Chwmtwrch Isaf. Bydd Canolfan Ailgylchu Cartrefi y Trallwng yn parhau i gael ei rhedeg gan Potter Group.
Bydd pob un o'r pump o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r sir, boed yn cael eu rhedeg gan Bryson Recycling neu Potter Group, yn darparu'r un gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys y system archebu newydd.
A fydd y system cadw lle yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon?
Mae'n bwysig cofio bod tipio sbwriel yn anghyfreithlon, y bydd troseddwyr yn cael dirwy ac y gallent dderbyn cofnod troseddol. Nid yw'n rhywbeth y mae preswylwyr yn troi ato ar y cyfan. Gellir rhoi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon yma
Drwy gyflwyno system archebu, nid ydym yn cyfyngu ar faint o wastraff cartref y gallwch ei gymryd i'r canolfannau ailgylchu, dim ond gofyn i ddefnyddwyr archebu amser ymlaen llaw ar gyfer eu hymweliad. Nid yw cynghorau eraill sydd eisoes â systemau archebu wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth bod y broses archebu wedi cynyddu lefelau tipio anghyfreithlon.
Ym mis Ionawr 2023, cynhaliodd Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) astudiaeth i ddarganfod a oedd unrhyw gysylltiadau rhwng systemau archebu canolfannau ailgylchu a digwyddiadau o dipio anghyfreithlon. Nid oedd arolygon a chyfweliadau a gynhaliwyd gydag awdurdodau lleol yn dangos cysylltiad rhwng systemau archebu a thipio anghyfreithlon.
Pwy alla i gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth, gallwch ymweld â www.powys.gov.uk/recycle neu e-bostiwch waste.contracts@powys.gov.uk