Cwestiynau cyffredin am daliadau gwastraff DIY
O 1 Ebrill 2025 ymlaen, codir tâl am gymryd gwastraff DIY i'r Canolfannau Ailgylchu Cartrefi (Canolfannau) y sir.
Pam ein bod ni'n cyflwyno taliadau am wastraff DIY?
Mae gwastraff o unrhyw waith DIY neu welliannau i'ch cartref yn cael ei ystyried i fod yn wastraff diwydiannol, ac nid yn wastraff cartref (gwastraff a grëir wrth redeg eich cartref o ddydd i ddydd). Mae'r dreth gyngor ond yn cwmpasu cost casglu, ailgylchu a gwaredu gwastraff cartref, nid gwastraff diwydiannol, sy'n golygu nad oes rhaid i ni ddarparu gwasanaeth ar gyfer y math hwn o ddeunydd. Fodd bynnag, rydym yn deall, o ganlyniad i welliannau DIY mewn cartrefi bach, y gall preswylwyr gynhyrchu'r math hwn o wastraff, ac felly byddwn yn ei dderbyn yn ein Canolfannau, gyda thâl bychan i dalu costau trin a gwaredu.
Ni chafodd y taliadau hyn eu cyflwyno i wneud elw ac maent wedi'u cadw mor isel â phosibl.
Rydym yn gwerthfawrogi nad oes croeso byth i daliadau, ond bydd hyn yn sicrhau y gallwn barhau i dderbyn y math hwn o wastraff a pharhau i fforddio cadw pob un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar agor bum diwrnod yr wythnos.
Pryd fydd y taliadau'n dechrau?
Bydd taliadau am waredu gwastraff DIY yn cael eu gweithredu o 1 Ebrill 2025.
A yw cynghorau eraill yn codi tâl am wastraff DIY?
Ydyn, hefyd mae rhai cynghorau eraill yng Nghymru wedi cyflwyno taliadau a neu gyfyngiadau ar gyfer gwastraff DIY yn eu canolfannau ailgylchu.
Pa eitemau sy'n cael eu hystyried yn wastraff DIY a beth fydd y taliadau?
- Rwbel a phridd
(blociau 'breeze', concrit, brics, serameg, teils, fflagenni, graean, llechi, cerrig eraill, pridd, tarmac, ac ati)
Un bag yr ymweliad am ddim (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
Wedi hynny:
£2.20 y bag (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
£15.00 fesul trelar bach (Trelar gyda hyd gwely hyd at 1.4m, nad yw'n ofynnol cael trwydded CVT.
£30.00 fesul trelar canolig (Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT.
Noder: Dylid dod â phridd a rwbel i'r safle mewn bagiau neu bwcedi fel bod modd ei dipio i'r cynhwysydd cywir. Nid oes gennym beiriannau penodol ar y safle i wagio cynnwys rhydd o gerbyd neu ôl-gerbyd.
- Plastrfwrdd
(rhaid iddo fod yn lân a sych a'i wahanu oddi wrth ddeunyddiau eraill (pren, rwbel, inswleiddio, ac ati))
£4.40 y bag (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
£22.00 fesul trelar bach (Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT
£44.00 fesul trelar canolig (Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT
- Coed a phren
(dodrefn, drysau, cypyrddau, ffensys, siediau, lloriau, deciau wedi'u gosod, ac ati)
Un bag yr ymweliad am ddim (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
Wedi hynny:
£4.40 y bag (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
£4.40 fesul ffens/panel sied
£22.00 fesul trelar bach (Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT
£44.00 fesul trelar canolig (Trelar gyda hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, y mae'n ofynnol cael trwydded CVT
- fframiau ffenestri a drysau uPVC
(heb wydr)
£3 fesul ffenestr sengl neu ffrâm drws sengl
£6 fesul ffenestr aml-gwarel neu ddrws dwbl
- Ffenestri a gwydr drws
£0.50 y cwarel (gwydr sengl)
£1.00 fesul cwarel (unedau gwydr dwbl/triphlyg)
- Offer glanweithdra ystafell ymolchi a chegin
(baddonau, hambyrddau cawod, toiledau, bidets, sinciau, sgriniau cawod, ac ati)
£3 yr un
- Deunydd inswleiddio
(sbwng PIR, byrddau ffeibr pren ac estyll stribed, gwlân mwynau neu wydr gwydr ffibr, 'Cellotex', 'Kingspan', ac ati)
£3 y bag (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
- Ffelt to
(Ffelt to sied neu garej)
£3 y bag (Maint bag manwerthu arferol ar gyfer tywod /agregau hyd at 25lt. Rhaid i'r bag gael ei godi'n ddiogel gan un person. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag. Codir tâl am ddeunydd rhydd yn ôl y nifer amcangyfrifedig cyfwerth o fagiau.)
- Gosodiadau plastig
(bibellau i lawr, gwter, facia, soffit, astell dywydd, ffitiadau a chymalau, ac ati)
£1.00 y metr
£1.00 fesul 5 darn gosod/cyd-ddarn
Nid ydym yn derbyn asbestos fel pob un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Defnyddiwch gwmni trwyddedig perthnasol i'w waredu.
Sut y bydd y staff yn gweithio allan faint fydd rhaid i mi ei dalu pan fyddaf yn cyrraedd yr HRC?
Cyfrifir y taliadau ar faint o bob math unigol o ddeunydd - fel eitemau unigol, bagiau neu lwythi trelar.
Mae bag yn cyfateb â bag bach plastig safonol ar gyfer tywod neu agregau a brynir fel arfer o siopau DIY, y gall un person ei godi'n ddiogel. Mae bag wedi'i lenwi'n rhannol yn cyfrif fel un bag.
Mae'r costau ar gyfer llwythi trelar yn dibynnu ar faint y trelar:
Trelars bach - hyd gwely hyd at 1.4m, heb ofyn am drwydded CVT (gweler yma am fwy o fanylion: https://en.powys.gov.uk/cvt)
Trelars canolig - hyd gwely rhwng 1.4 m a 2.44m, sy'n gofyn am drwydded CVT (gweler yma am fwy o fanylion: https://en.powys.gov.uk/cvt)
Codir tâl am wastraff heb ei dagio neu wastraff rhydd yn ôl y nifer cyfatebol o fagiau a amcangyfrifir. Bydd aelod o staff yn asesu'r swm ac yn eich cynghori ynghylch y tâl ar sail eu hasesiad rhesymol o'r llwyth. Nid oes unrhyw rwymedigaeth arnoch i dalu'r tâl, ond ni chaniateir i chi gael gwared ar eitemau heb dalu. Byddwch yn gallu cael gwared ar unrhyw wastraff cartref am ddim.
A allaf ddod â llwyth bach o wastraff DIY i'r Ganolfan am ddim?
Cewch ddod â llwyth bach (un bag yr ymweliad) o rwbel, pridd a phren i'r Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi am ddim. Codir tâl am ddeunyddiau eraill, fel y rhestrir uchod?
Rwyf wedi sylwi bod tâl am blastrfwrdd - a allaf gymryd plastrfwrdd i bob Canolfan nawr?
Gallwch, o 1 Ebrill ymlaen, bydd pob un o'r pump Canolfan yn derbyn plastrfwrdd am bris.
Sut ydw i'n talu?
Talwch gyda cherdyn ar y safle. Os na allwch dalu, byddwn yn gofyn i chi adael y safle gyda'ch gwastraff DIY a dychwelyd pan fydd gennych ddull talu dilys.
A fydd y taliadau'n aros yr un fath am y flwyddyn gyfan?
Mae'r holl daliadau'n ddilys am y flwyddyn ariannol gyfredol.
Ar gyfer beth y defnyddir yr arian a godir gan y taliadau hyn?
Mae'r ffioedd yn mynd tuag at gostau trin a phrosesu'r deunydd. Nid diben y ffioedd yw gwneud
elw ac maent wedi'u cadw mor isel â phosibl.
Rydym yn gwerthfawrogi nad oes croeso byth i daliadau, ond bydd hyn yn sicrhau y gallwn barhau i dderbyn y math hwn o wastraff a pharhau i fforddio cadw pob un o'r pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi ar agor bum diwrnod yr wythnos.
Beth sy'n digwydd os nad ydw i eisiau talu?
Ni fyddwch yn gallu dyddodi unrhyw wastraff DIY (sy'n fwy na'r dyraniad di-dâl bach) heb dâl.
Rwy'n gwneud prosiect DIY/adeiladu gartref, beth ddylwn i ei wneud gyda fy ngwastraff?
Ni fwriadwyd erioed i Ganolfannau Ailgylchu Cartrefi i dderbyn llwythi sylweddol o wastraff o brosiectau DIY neu adeiladu mawr. Yn yr achosion hyn, byddai llogi sgip yn fwy priodol ac yn rhatach, fwy na thebyg.
Os ydych yn cael gwaith wedi ei wneud gan adeiladwr neu grefftwr, nhw sy'n gyfrifol am waredu unrhyw wastraff a gynhyrchir o ganlyniad i'w gwaith.
I gael rhagor o gyngor am beth i'w wneud gyda'ch gwastraff, gweler canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cael gwared ar eich gwastraff cartref: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/waste-management/disposing-of-your-household-waste/?lang=en
Rwyf am ddod â rhywfaint o wastraff DIY a rhywfaint o ailgylchu arall o'r cartref yn ystod yr un ymweliad, a yw hynny'n iawn?
Ydy, mae hynny'n iawn. Gallwch archebu slot amser i ymweld â'r Ganolfan yn y ffordd arferol. Pan fyddwch yn cyrraedd y safle gallwch dalu i ollwng eich gwastraff DIY ac ailgylchu gweddill eich gwastraff cartref am ddim.
Mae angen i mi ddod â rhywfaint o wastraff DIY i'r Ganolfan ar ran rhywun arall, a oes rhaid i mi dalu o hyd?
Oes, bydd angen i chi dalu i ddyddodi unrhyw wastraff DIY.
A fydd angen i mi drefnu amser i ddod â'm gwastraff DIY i'r Ganolfan?
Bydd, gallwch archebu amser i ymweld â'r Ganolfan ar-lein yma
Rwy'n adeiladwr, a allaf dalu i gymryd gwastraff masnach neu fasnachol i'r Ganolfan?
Na, ni ellir mynd â gwastraff masnach a masnachol ac ailgylchu i unrhyw un o'r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi.
Os oes angen unrhyw gyngor neu gymorth arnoch gyda gwastraff masnachol, ewch i: https://en.powys.gov.uk/commercialrecycling
A fydd oriau agor y canolfannau ailgylchu yn newid?
Na, bydd yr oriau agor a'r diwrnodau gweithredu yn aros yr un fath, gallwch ddod o hyd i'r rhain yma
A fydd y taliadau'n arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon?
Mae'n bwysig cofio bod tipio sbwriel yn anghyfreithlon, y bydd troseddwyr yn cael dirwy ac y gallent dderbyn cofnod troseddol. Nid yw'n rhywbeth y mae preswylwyr yn troi ato ar y cyfan. Gellir rhoi gwybod am unrhyw achosion o dipio anghyfreithlon yma.
Credwn fod ein trigolion yn gyfrifol ac na fyddent yn dewis tipio gwastraff yn anghyfreithlon yn hytrach na thalu ffi fach i reoli eu gwastraff DIY yn briodol.
Yn 2021, cynhaliodd WRAP astudiaeth ar y berthynas rhwng cyfraddau tipio anghyfreithlon a chodi tâl mewn Canolfan. Ni chanfu'r ymchwil unrhyw dystiolaeth o gysylltiad rhwng tipio anghyfreithlon a chodi tâl am wastraff DIY mewn Canolfannau.
I gael rhagor o gyngor am beth i'w wneud gyda'ch gwastraff, gweler canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cael gwared ar eich gwastraff cartref: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/waste-management/disposing-of-your-household-waste/?lang=en
A yw'r taliadau DIY wedi'u cyflwyno gan y cwmni newydd sy'n rhedeg y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi?
Na, gwnaed y penderfyniad i gyflwyno tâl am waredu gwastraff DIY gan y cyngor yn ôl ym mis Chwefror 2024 Mae ei weithredu'n syrthio'n unol â dechrau'r contractau newydd.
O 1 Ebrill 2025, bydd Bryson Recycling yn rheoli ac yn gweithredu Canolfannau Ailgylchu Cartrefi Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu a Chwmtwrch Isaf. Bydd Canolfan Ailgylchu Cartrefi y Trallwng yn parhau i gael ei rhedeg gan Potter Group.
Bydd pob un o'r pump o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi y sir, boed yn cael eu rhedeg gan Bryson Recycling neu Potter Group, yn darparu'r un gwasanaeth. Mae hyn yn cynnwys taliadau DIY.
Pwy alla i gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth?
Am ragor o wybodaeth, gallwch ymweld â www.powys.gov.uk/recycle neu e-bostiwch waste.contracts@powys.gov.uk