Ynglŷn â Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru

Rydym yn ymroddedig i ddod â theuluoedd ynghyd drwy ddarparu cymorth a chyngor arbenigol i fabwysiadwyr presennol ac arwain unigolion a theuluoedd newydd ar eu taith i ddod yn deulu mabwysiadol.

Rydym hefyd yn falch o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol sy'n cysylltu holl wasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ledled Cymru.
Pam Mabwysiadu?
Mae mabwysiadu yn ffordd hyfryd o gynyddu eich teulu ond yn bwysicach o wneud gwahaniaeth mawr ym mywyd plentyn.
Mae yna blant unigol, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phlant ag anghenion ychwanegol sydd ag angen dybryd am deulu llawn cariad a dealltwriaeth. Gallech newid bywyd plentyn a chreu teulu cariadus sy'n para oes.