Cadw'n ddiogel yn ystod y cyfnod ŵyna - Cyngor Cyffredinol

Os ydych chi'n ymweld â chartref lle mae rhywun yn feichiog, yn ceisio cael babi, neu sydd â system imiwnedd wan, dilynwch y mesurau diogelwch hyn:
Newidiwch a golchwch unrhyw ddillad a allai fod wedi'u hamlygu i anifeiliaid sy'n ŵyna, eu rhai bach a deunyddiau geni cyn ymweld.
Ceisiwch osgoi ddod â dillad neu esgidiau halogedig i mewn i'r tŷ.
Golchwch eich dwylo'n drylwyr cyn mynd i mewn ac ar ôl gadael y cartref.
Cefnogaeth i Ffermwyr gan Filfeddygon
Dylai ffermwyr gysylltu â'u milfeddyg os yw mamog yn erthylu i nodi a rheoli unrhyw risgiau posibl i bobl ac i anifeiliaid.
Perchnogion Cŵn a'r Cyhoedd yn Gyffredinol
Wrth gerdded eich ci yn y wlad, byddwch yn ymwybodol o ddefaid, yn enwedig yn ystod y tymorŵyna:
Cadwch gŵn ar dennyn bob amser ger da byw, gan y gall defaid fynd yn ofnus, a all achosi erthyliad oherwydd straen.
Casglwch faw eich ci - gall baw cŵn gario parasitiaid, a all fod yn angheuol i ddefaid. Gwaredwch wastraff yn gyfrifol bob amser.
Dilynwch arwyddion a chanllawiau lleol i helpu i amddiffyn anifeiliaid fferm a pharchu tir fferm sy'n cael ei weithio.
Nodyn Atgoffa am Ddiogelwch Anifeiliaid Anwes
Dylech roi triniaeth reolaidd yn erbyn llyngyr I'ch anifeiliaid anwes. Byddwch yn arbennig o ofalus wrth lanhau eu baw, ac ymarferwch hylendid da ar ôl unrhyw gyswllt â nhw i leihau'r risg o heintiau.