Beth mae'r Asesiad Lles yn ei olygu fel arfer?

Bydd gweithiwr cymdeithasol yn cael ei ddyrannu i gynnal yr asesiad. Yn ystod yr asesiad bydd y gweithiwr cymdeithasol yn cyfarfod â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'r teulu, , er enghraifft, athro/athrawes y plentyn neu weithiwr iechyd proffesiynol.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol hefyd yn gweld ac yn siarad â'r plentyn dan sylw, ac yn gwneud yn siŵr bod ganddynt lais yn eu hasesiad.
Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn defnyddio model asesu i ddeall cryfderau'r teulu, yr hyn sy'n bwysig iddynt, a sut mae eu teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol yn chwarae rhan yn eu bywyd.
Bydd yr asesiad yn ystyried;
- Sefyllfa'r plentyn
- Yr hyn y mae'r plentyn a'r teulu am ei gyflawni
- Asesu unrhyw rwystrau i gyflawni'r nodau hynny
- Asesu unrhyw risg i'r plentyn os na chyflawnir y nodau hynny
- Asesu cryfderau a galluoedd y teulu