Pa Mor Hir Mae'r Asesiad yn Cymryd?

Byddwn yn ceisio cwblhau'r asesiad lles cyn gynted â phosibl ond gall hyn gymryd hyd at 42 diwrnod gwaith lle mae'r asesiad yn un gynhwysfawr.
Bydd yr asesiad lles yn cael ei adolygu bob blwyddyn, cyn belled â bod y plentyn yn derbyn gofal a chymorth gan Wasanaethau Plant. Os oes unrhyw newidiadau yn sefyllfa, anghenion neu nodau'r plentyn, bydd yr asesiad yn cael ei adolygu bryd hynny.
Yr uchod yw'r amserlenni a ddisgwylir.
Er ein bod yn ceisio cadw at yr amserlenni hyn, gall fod amgylchiadau lle na ellir bodloni'r rhain.